
Llywodraeth Cymru i 'gefnogi pobl sy'n gadael Afghanistan'
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth yn ei gallu" i gefnogi’r bobl sy'n gadael Afghanistan.
Daw hyn ar ôl i’r Taliban gipio grym dros y dyddiau diwethaf, gan achosi nifer i geisio ffoi o’r wlad.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod am weld Cymru yn dod yn "genedl noddfa".
Ychwanegodd fod y llywodraeth yn "gweithio gyda'r Swyddfa Gartref a chynghorau i gefnogi'r rhai sydd mewn angen".
Fe all y rhai wnaeth wasanaethu’r lluoedd arfog Prydeinig yn Afghanistan ymgeisio am yr hawl i ailgartrefu yn y Deyrnas Unedig fel rhan o gynllun y llywodraeth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab y gall pobl sy’n agored i niwed dderbyn cefnogaeth trwy’r cynllun ailsefydlu “pwrpasol”.

Ymhlith y cynghorau cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth mae Cyngor Wrecsam, sydd wedi galw ar berchnogion tai i'w helpu i ailgartrefu teuluoedd. sydd
Bydd y teuluoedd sy’n cyrraedd Wrecsam yn derbyn lletygarwch trwy’r sector rhentu preifat, a bydd y Groes Goch a sefydliadau eraill yn darparu cefnogaeth integreiddio a chyflogadwyedd.
O ganlyniad i natur brys yr apêl mae’r cyngor yn galw’n uniongyrchol ar letywyr ac yn eu hannog i gysylltu os ydyn nhw’n berchen â lleoedd preswyl addas.
‘Dangos ein diolch am eu gwasanaeth’
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, sef yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mi oedd y cynnig i gymryd rhan yng Nghynllun Adleoli Afghanistan wedi derbyn cefnogaeth unfrydol gan aelodau [y cyngor] ac rydym yn gwybod y byddai Wrecsam yn croesawu teuluoedd sydd wedi ymroi gymaint i gefnogi milwyr a Llywodraeth y DU tra roeddent ar ddyletswydd tramor.”
Ychwanegodd y Cynghorydd David Griffiths, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ac Aelod Arweiniol dros Dai: “Roeddwn yn falch o gefnogi’r cynnig hwn i roi cymorth sydd ei angen i deuluoedd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel yn dilyn eu gwasanaeth i luoedd arfog y DU a Llywodraeth y DU.
“Bydd eu bywydau nhw, a'u teuluoedd nhw, mewn perygl os na allwn gynnig lloches a dangos ein diolch am eu gwasanaeth.”