Sir Gâr: Gyrrwr lori laeth wedi ei anafu ar ôl i'w gerbyd adael y ffordd
Cafodd gyrrwr lori laeth ei anafu ar ôl i'w gerbyd oedd yn cludo 28,000 o litrau o lefrith wyro oddi ar y ffordd yn Sir Gâr ddydd Llun.
Fe gafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub o orsaf dân Caerfyrddin eu galw i'r digwyddiad ger Ffynnon-ddrain ychydyg cyn 11:00.
Roedd y tancer wedi gadael y ffordd fawr cyn disgyn i lawr ochr arglawdd.
Nid oedd unrhyw gerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.
Llwyddodd swyddogion y Gwasanaeth Tân i atal y llaeth rhag llifo o'r tancer cyn gwneud y safle'n ddiogel.
Cafodd gyrrwr y cerbyd ei drin yn y fan a'r lle gan swyddogion o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, cyn cael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.
Roedd angen ymateb nifer o asiantaethau brys i'r digwyddiad, gyda Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans, yr Adran Priffyrdd a'r Awdurdod Lleol hefyd yn bresennol.
Gadawodd y Gwasanaeth Tân y lleoliad am 13.43 meddai llefarydd mewn datganiad.