Llywodraeth Cymru yn galw am beidio cyflwyno treth newydd ar fyfyrwyr tramor yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU beidio â chyflwyno treth newydd ar fyfyrwyr tramor yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg y DU, Bridget Phillipson, yng nghynhadledd y Blaid Lafur ddydd Llun y bydd myfyrwyr rhyngwladol yn wynebu’r ardoll (levy) newydd ym mhrifysgolion a cholegau Lloegr.
Fe fydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio er mwyn ariannu myfyrwyr sydd ar gyrsiau sy’n cefnogi “strategaeth ddiwydiannol” Llywodraeth y DU.
Mae addysg uwch yn bwnc sydd wedi’i ddatganoli i Gymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu torri eu cwys eu hunain ar y pwnc.
“Rydym yn aros am fanylion llawn gan Lywodraeth y DU ac wedi gofyn nad yw’r ardoll ar fyfyrwyr rhyngwladol yn berthnasol i brifysgolion Cymru,” medden nhw wrth Newyddion S4C.
“Mae myfyrwyr Cymru eisoes yn gymwys i gael grantiau cynhaliaeth, gyda’r lefelau uchaf o gymorth grant nad oes angen ei ad-dalu yn cael eu darparu i’r rhai sydd fwyaf mewn angen.”
'Anghywir'
Mae’r undeb sy’n cynrychioli gweithwyr prifysgol a choleg, UCU, eisoes wedi beirniadu'r cynlluniau.
Dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol, Jo Grady, bod trin myfyrwyr rhyngwladol fel “peiriant pres” i ariannu myfyrwyr cartref yn “tynnu o un twll i lenwi un arall”.
“Yn hytrach na bwrw’n erbyn myfyrwyr tramor dylai llywodraeth Lafur fod yn trwsio ein colegau a’n prifysgolion drwy fuddsoddiad mawr o arian cyhoeddus,” meddai.
Roedd Vivienne Stern, prif weithredwr Universities UK, llais y sector addysg uwch, hefyd yn feirniadol o sut y byddai'r cynllun yn cael ei ariannu.
“Mae arian ychwanegol i gefnogi myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol i astudio cyrsiau sy'n hanfodol i dwf economaidd yn syniad da - ond byddai’r ffordd hon o’i weithredu yn anghywir,” meddai.
“Ni fydd ardoll ar fyfyrwyr rhyngwladol yn helpu myfyrwyr difreintiedig, bydd yn eu rhwystro.
“Fel y mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg eisoes yn ei ddangos, byddai’n lleihau nifer y lleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr cartref ac yn golygu bod gan brifysgolion hyd yn oed llai o'u hadnodd prin i fuddsoddi mewn ehangu mynediad a chefnogi myfyrwyr.”