Y gwaith o chwilio am ddyn sydd ar goll yn Eryri'n parhau
Mae'r gwaith o chwilio am ddyn aeth ar goll ar Yr Wyddfa ddydd Llun yn parhau meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd y dyn o'r enw Kieran ei weld ddiwethaf ychydig cyn 12:00 ddydd Llun yn ardal Bwlch Glas ger Llwybr Pyg ar y mynydd.
Roedd yn gwisgo côt patrwm camouflage ac mae ganddo farf tywyll.
Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Parry: “Yn anffodus, mae Kieran yn parhau ar goll, ac nid ydym wedi derbyn unrhyw gadarnhad pellach o'i weld ar ôl hanner dydd ddoe.
“Mae chwiliadau'n parhau heddiw ochr yn ochr â'n Tîm Achub Mynydd, NPAS a chydweithwyr Gwylwyr y Glannau EM.
“Rwy'n parhau i annog unrhyw un a oedd yn cerdded yn yr ardal ddoe i wirio eu lluniau am arwyddion o Kieran, ac unrhyw un a allai fod wedi'i weld o 7:00 ymlaen i gysylltu â ni."
Ychwanegodd: “Rwyf hefyd yn parhau i apelio ar y grŵp o gerddwyr a welodd Kieran ychydig cyn hanner dydd i gysylltu â ni.
“Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo yn ein gwaith chwilio hyd yn hyn, ac i bawb sy’n cynnig cefnogaeth.
"Er ein bod yn gwerthfawrogi’r cymorth, hoffwn hefyd annog pobl i beidio â’u rhoi eu hunain mewn perygl wrth ymweld â'r ardal, ac i ddod â chyfarpar priodol bob amser.”