Dyn wedi syrthio dros 600 troedfedd oddi ar y Glyder Fach

Mateusz Stanek

Clywodd cwest ddydd Mawrth bod dyn o Lerpwl wedi marw ar ôl syrthio dros 600 troedfedd oddi ar fynydd y Glyder Fach yn Eryri.

Syrthiodd Mateusz Stanek, 42 oed, oedd yn cerdded ar ei ben ei hun, oddi ar y mynydd 3,262 troedfedd o uchder, yr ail uchaf yn y Glyderau, ym mis Mai eleni.

Fe gafodd y ddamwain ei gweld gan grŵp arall o ddringwyr oedd gerllaw, clywodd y cwest yn Rhuthun.

Roedd Mr Stanek, gweithiwr ffatri o Wlad Pwyl oedd wedi ymgartrefu yn Hollow Croft, Lerpwl, yn mwynhau cerdded mynyddoedd.

Dywedodd ei weddw, Barbara Stanek, cynorthwyydd cadw tŷ, mewn datganiad ei fod wedi gadael ei gartref ar 10 Mai i fynd i gerdded ar ei ben ei hun.

"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig i'n teulu ac rydym yn ei chael hi'n anodd dod i delerau â’r hyn a ddigwyddodd,” meddai.

Dywedodd Oliver Whiting, a oedd ar fynydd y Glyder Fach ar y pryd, ei fod wedi clywed cerrig yn cwympo ac yna gweld Mr Stanek yn plymio i lawr ceunant. 

"Roedd yn cwympo i lawr y mynydd, yn troelli i lawr y mynydd, yn mynd drosodd a throsodd," meddai Mr Whiting.

Roedd gan Mr Stanek anafiadau "trychinebus" i'w ben, meddai Mr Whiting, a oedd yn barafeddyg gyda gwasanaeth ambiwlans De-orllewin Lloegr.

Amcangyfrifodd fod y cwymp tua 200 metr.

"Roedd yn arswydus gweld cyd-ddringwr yn cwympo i lawr mynydd," meddai Mr Whiting.

"Fe wnaethon ni bopeth o fewn ein gallu i'w helpu."

Dywedodd y patholegydd, Dr Muhammad Zain Mehdi fod Mateusz Stanek wedi torri ei benglog.

Cofnododd y crwner, Kate Robertson gasgliad o ddamwain gan ddweud fod Mr Stanek yn “gerddwr profiadol.” 

“Bu farw ar Fai 10 ar fynydd y Glyder Fach, ar ôl dioddef anafiadau angheuol oherwydd cwymp o uchder wrth gerdded,” meddai.

Teyrngedau

Dywedodd y teulu mewn datganiad ar ôl ei farwolaeth: “Gyda thristwch mawr yr ydym yn rhannu’r newyddion torcalonnus am farwolaeth sydyn a thrasig Matty, gŵr ymroddedig, tad cariadus, a ffrind annwyl i gynifer. 

“Collodd Matty ei fywyd mewn damwain drasig yng Nghymru, gan adael teulu a chymunedau ar ei ôl a oedd yn ei garu a’i barchu’n fawr.

“Roedd Matty y math o berson a fyddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu eraill. 

“Cyffyrddodd ei gynhesrwydd, ei garedigrwydd, a’i ysbryd hael â phawb a gafodd y fraint o’i adnabod. 

“Boed fel cydweithiwr, cymydog, neu ffrind gydol oes, gadawodd Matty argraff barhaol o gariad, dewrder, teyrngarwch a chryfder.”

Dywedodd Clwb Kung Fu Hung Gar yn Lerpwl: “Mae pawb yn y clwb wedi torri eu calonnau o glywed am farwolaeth drasig un o’n myfyrwyr, Mateusz Stanek, mewn damwain yn Eryri. 

“Dim ond dros flwyddyn yr oedd Mateusz wedi bod yn y clwb ond daeth yn fyfyriwr poblogaidd yn fuan iawn oherwydd ei gymeriad cyfeillgar ac allblyg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.