Cymro wnaeth erfyn am gael mynd i Gaza yn benderfynol o gyrraedd yno ar gwch
Cymro wnaeth erfyn am gael mynd i Gaza yn benderfynol o gyrraedd yno ar gwch
Mae Cymro a ddaeth i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn pledio am gael mynd i mewn i Gaza bellach yn rhan o lynges sy’n teithio yno.
Ym mis Mehefin fe gafodd fideo o Leigh Evans yn pledio gyda'r heddlu yn yr Aifft i adael iddo deithio i Gaza er mwyn darparu cymorth meddygol ei wylio miliynau o weithiau.
Ers 20 mlynedd mae’r nyrs, sydd o Bengelli yn Abertawe, wedi bod yn teithio i Gaza er mwyn gweithio mewn ysbytai yno.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod bellach yn benderfynol o gyrraedd yno eto fel rhan o’r Global Sumud Flotilla. 52 o gychod sydd yn hwylio i Gaza er mwyn darparu cefnogaeth ddyngarol yw'r Global Sumud Flotilla.
Wedi mis o hwylio mae’r llongau bellach i'r gorllewin o ynys Creta, gyda dau neu dri diwrnod yn weddill cyn cyrraedd y dyfroedd oddi ar arfordir Llain Gaza.
Mae Llywodraeth Israel wedi dweud na fyddan nhw'n gadael i'r Global Sumud Flotilla gyrraedd Gaza.
“Ni fydd Israel yn caniatáu i longau fynd i mewn i ardal lle mae ymladd yn digwydd,” meddai Gweinidog Tramor Israel, Gideon Saar.
Fe ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Gweinyddiaeth Dramor Israel, Eden Bar-Tal, nad yw'r llynges "yn genhadaeth ddyngarol ond yn ymgais at bryfocio yn wleidyddol".
Fe wnaeth droniau ymosod ar y llynges mewn dyfroedd rhyngwladol wythnos yn ôl, gan ddifrodi rhai o’r cychod, a gorfodi'r fflyd i oedi ar ynys Creta.
Ond dywedodd Leigh Evans wrth Newyddion S4C na fyddai yn caniatáu i hynny ei atal rhag ceisio cyrraedd Gaza.
"Mae'r ymosodiadau, bygythiadau, trais, dyw hynny ddim mynd i ein hatal o gwbl," meddai.
"Os unrhyw beth, fe fydd yn rhoi mwy o gryfder i ni.
"Mae dal 2 miliwn o bobl yn Gaza yn cael eu llwgu gan Israel, ac mae 3.2 miliwn o bobl yn y Llain Orllewinol, hanner ohonynt yn blant.
"Mae ein hymrwymiad a’n safiad yn gadarn, po waeth y bygythiadau maen nhw’n eu gwneud. Rydym wedi paratoi ar eu cyfer."
Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi gwadu fod newyn ar raddfa fawr yn digwydd yn Gaza ac mai bai asiantaethau cymorth a Hamas yw hi os nad oes gan bobl fwyd.
Mae Israel wedi cyhuddo asiantaethau cymorth rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig o beidio â chasglu cymorth sy'n aros ar ffin Gaza.
Inline Tweet: https://twitter.com/AJEnglish/status/1934200461437079594
'Dinistrio'
Dechreuodd y gwrthdaro presennol yn Gaza wrth i Israel ymateb i'r ymosodiad dan arweiniad Hamas ar 7 Hydref 2023, lle y cafodd tua 1,200 eu lladd a 251 eraill eu cymryd yn wystlon.
Mae o leiaf 65,419 o bobl wedi cael eu lladd gan ymosodiadau Israel yn Gaza ers hynny, yn ôl gweinidogaeth iechyd y diriogaeth.
Ond dywedodd Leigh Evans ei fod wedi bod yn ceisio helpu pobl gyffredin Gaza ers degawdau a bod yr hyn mae wedi ei weld yn Gaza ar hyd y blynyddoedd "wedi fy ninistrio."
"Fe welais i erchyllterau, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi gweld popeth fel nyrs, ond roedd beth welais yn Gaza wedi fy ninistrio go iawn,” meddai.
"Ond roedd empathi, gwydnwch a thrugaredd y bobl Palesteinaidd yn gymorth enfawr i mi.
"Ar ôl dychwelyd i Gymru yn 2005 roedd angen amser arna i brosesu beth roeddwn i wedi gweld.
"Ond wedi rhai misoedd, a bob tro roedd gen i ddigon o arian, roeddwn i’n dychwelyd i Gaza i ddarparu cymorth meddygol."
Fe aeth Leigh yn ôl ar sawl achlysur ond yn 2010 fe benderfynodd beidio mynd eto oherwydd nad oedd yn gallu dioddef yr hyn a welodd yno.
Fe benderfynodd y byddai yn dychwelyd ym mis Chwefror eleni, ac roedd yr olygfa yn Gaza yn "llawer, llawer gwaeth," meddai.
'Aros amdanom'
Yn ôl Leigh mae criwiau meddygol a dyngarol yn barod i dderbyn y cychod pan maen nhw'n cyrraedd Gaza.
“Mae hyn yn ymwneud â thorri gwarchae anghyfreithlon Israel ac uno dinasyddion y byd," meddai.
“Mae pobl yn barod i’n derbyn ni yn Gaza pan gyrhaeddwn ni yno - mae pob cwch yn cario cymorth dyngarol, cymorth meddygol a bwyd i blant sy’n dioddef o ddiffyg maeth.
“Mae pobl yn aros amdanom ni’n barod, ac unwaith y byddwn ni wedi mynd drwodd ac wedi treulio wythnos yno, byddwn ni’n rhoi’r cymorth hwnnw ar draws Gaza."