Hamas yn adolygu cynllun heddwch newydd ar gyfer Gaza
Mae Hamas yn adolygu cynllun heddwch newydd ar gyfer Gaza a gafodd ei lunio gan Donald Trump.
Nos Lun fe gafodd y cynllun ei gytuno gan Arlywydd yr UDA ac Arlywydd Israel, Benjamin Netanyahu.
Mae'n nodi y bydd y rhyfel yn dod i ben ac y bydd cymorth dyngarol yn cyrraedd Gaza.
Bydd angen i Hamas rhyddhau 20 o'r wystlon sydd dal yn fyw a chyrff yr wystlon eraill sydd wedi marw o fewn y 72 awr nesaf. Os bydd hyn yn digwydd fe fydd cannoedd o Balesteiniad sydd wedi eu carcharu yn cael eu rhyddhau.
Mae'r cynllun 20 pwynt hefyd yn mynnu na fydd Hamas yn cael chwarae unrhyw rôl yn llywodraethu Gaza ond bod yna bosibilrwydd am wladwriaeth Balasteinaidd yn y dyfodol.
Wrth siarad mewn cynhadledd newyddion yn y Tŷ Gwyn fe ddywedodd Trump bod y cynllun yn "ddiwrnod hanesyddol am heddwch". Ond dywedodd hefyd y byddai America yn cefnogi Netanyahu i "ddinistrio Hamas" os na fydd Hamas yn cytuno.
Bydd Gaza yn cael ei lywodraethu dros dro gan bwyllgor o arbenigwyr Palesteinaidd a rhyngwladol. Bydd y pwyllgor yn cael ei oruchwylio gan gorff rhyngwladol newydd, 'Bwrdd Heddwch'.
Donald Trump fydd yn cadeirio'r bwrdd ac ymhlith arweinwyr rhyngwladol fydd yn aelodau o'r bwrdd fydd cyn brif weinidog Prydain, Tony Blair.
Mae o wedi croesawu'r cynllun gan ddweud ei fod yn un "beiddgar a deallus" sydd yn cynnig y "gobaith gorau" o ddod a'r rhyfel i ben.
Mae Prif Weinidog Prydain, Keir Starmer hefyd wedi dweud ei fod yn cefnogi'r cynllun. Dywedodd y dylai Hamas "gytuno i'r cynllun a dod a diwedd i'r dioddefaint" sy'n bodoli yn Gaza.
Cefnogi'r cynllun mae arweinwyr Ewropeaidd a'r Dwyrain Canol hefyd.
Mae un o uwch swyddogion Hamas wedi dweud wrth y BBC y bydd grŵp yn craffu ar yr amodau yn y cynllun. Ond mae'n pwysleisio y byddai unrhyw gytundeb yn gorfod gwarchod buddiannau pobl Palesteina a golygu y byddai lluoedd Israel yn gadael Gaza.