Carchar i ddyn am 16 mlynedd ar ôl cyflawni troseddau rhywiol
Mae dyn wedi ei garcharu am 16 mlynedd ar ôl iddo gyflawni nifer o droseddau rhywiol difrifol yn erbyn menyw yn Sir y Fflint.
Cafodd Dumitru-Robert Lactus ei ddedfrydu ddydd Llun ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o sawl cyhuddiad gan gynnwys treisio, ymosod gan achosi niwed corfforol, mygu yn fwriadol a bygythiadau i ladd.
Bydd yn rhaid i Lactus rhoi ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw ac mae gorchymyn ataliol wedi ei rhoi er mwyn amddiffyn y dioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Bostock bod "ymddygiad treisgar" a "brawychus" Lactus yn rhywbeth wneith aros gyda'r dioddefwr "am byth".
"Dwi'n cymeradwyo ei dewrder yn codi llais ac yn adrodd y troseddau erchyll yma a'i dewrder trwy'r broses gyfreithiol".
Ychwanegodd y byddai yn annog unrhyw un sydd wedi profi ymddygiad o'r fath i gysylltu gyda'r heddlu a bod y llu yn cymryd trais yn erbyn merched fel mater difrifol iawn.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru