Ramsey, Ampadu a Rodon yn dychwelyd i garfan Cymru i wynebu Lloegr a Gwlad Belg
Mae capten Cymru Aaron Ramsey, Joe Rodon ac Ethan Ampadu wedi dychwelyd i'r garfan genedlaethol i wynebu Lloegr a Gwlad Belg.
Ni chafodd Ramsey ei gynnwys yn y garfan yn gynharach ym mis Medi gan ei fod newydd wella ar ôl dioddef anaf hir dymor.
Bydd Ethan Ampadu a Joe Rodon hefyd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl methu'r gemau yn erbyn Kazakhstan a Chanada.
Mae Ramsey wedi chwarae ar bump achlysur yn i'w glwb Pumas ym Mecsico ers dychwelyd o anaf, ac fe sgoriodd yn un o'r gemau hynny.
Mae'r asgellwr Dan James hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan er gwaethaf adroddiadau am anaf i'w ben-glin, gyda Chymru yn aros am asesiad gan ei glwb, Leeds United.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1972954129678143922
Bydd Cymru yn wynebu Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley ar nos Iau 9 Hydref, cyn herio Gwlad Belg yng Nghaerdydd bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mae na obaith y gallai tîm Craig Bellamy gymhwyso'n awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd 2026, ond bydd angen dibynnu ar dimau eraill yn colli.
Bydd angen i Wlad Belg beidio ennill yn erbyn Cymru ac yn erbyn Gogledd Macedonia, Liechtenstein neu Kazakhstan.
Gogledd Macedonia sydd ar frig y grŵp gyda 11 pwynt, un pwynt uwchben Cymru a Gwlad Belg.
Mae Gwlad Belg yn yr ail safle gyda Chymru yn drydydd ar yr un nifer o bwyntiau, ond gyda gwahaniaeth goliau gwaeth na Gwlad Belg.
Y tîm sydd yn gorffen ar frig y grŵp fydd yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd, tra bod yr ail safle yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth.
Hyd yn oed os yw Cymru yn gorffen yn y trydydd safle, fe fyddan nhw'n cymhwyso ar gyfer y gemau ail-gyfle gan eu bod wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.