
Gobaith y bydd map enwau lleoedd Cymraeg yn gam cyntaf at ddeddfwriaeth
Mae arbenigwr wedi dweud y gallai map iaith newydd gan Lywodraeth Cymru fod yn “gam cyntaf” at ddeddfwriaeth i warchod enwau Cymraeg.
Dyna obaith yr Athro Rhys Jones, Is-ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru lansio gwefan newydd ddydd Mawrth a fydd yn golygu y gallai “unrhyw un gofnodi enwau Cymraeg a hanesyddol nad ydynt yn ymddangos ar fapiau ar-lein”.
Fe fydd modd cofnodi enwau ar gyfer amrywiaeth o nodweddion gwahanol gan gynnwys, caeau, bryniau, neu enwau hanesyddol eu strydoedd a chartrefi.
Ac yn ôl yr Athro Jones, mae ‘na obaith y gallai hynny gyfrannu at ganllawiau cryfach a fyddai’n gwarchod enwau Cymraeg rhag cael eu newid i’r Saesneg.
“Os ydi gwefan sydd â rhyw fath o gofnod o: ‘Dyma yw yr enwau lleoedd’ – mae e wedyn ni yn gam cyntaf i ti fod â rhyw fath o reol neu deddf sy’n dweud, ‘Wel dyma yw’r enwau swyddogol’,” meddai.
“A dylen nhw ddim cael eu newid i’r Saesneg fel maen nhw wedi bod mewn rhai achosion yn ddiweddar.”
Pwy sydd biau'r iaith?
Daw’r wefan fel rhan o “gyfres o flaenoriaethau a gyhoeddwyd i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg,” medd y llywodraeth.
Yn ôl yr Athro Jones, mae cam o’r fath yn dangos sut mae “perchnogaeth” o’r iaith Gymraeg wedi newid dros y degawdau diwethaf.
“Yn gyffredinol mae’n adlewyrchu bod ‘na wleidyddiaeth mewn enwi pethau yn does e?” meddai.
“Mae’n ddiddorol mewn ffordd ‘ta Llywodraeth Llafur sy’n cyhoeddi hyn hefyd.
“Fyddech chi ddim yn gorfod mynd nôl yn bell iawn i feddwl, ‘Wel mae hyn yn rhywbeth y byddai Plaid Cymru yn ei ddadlau’n gryf drosto fe.’ Mae’n syndod mewn ffordd.
“Mae’n dangos falle shwd mae natur y Gymraeg a pwy sy’n perchnogi’r Gymraeg yn y Gymru gyfoes – mae hwnna wedi newid lot dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
“Mae’n dangos nid jyst Plaid Cymru sy’n ceisio perchnogi’r Gymraeg nawr ond bod y Blaid Lafur yn ceisio gwneud hefyd.”

'Diffygion'
Ond yn ôl Siân Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, mae angen “mwy na gwefan er mwyn diogelu enwau lleoedd Cymraeg”.
Mae’n dweud bod yna “ormodedd” o enghreifftiau lle mae enwau tai Cymraeg yn cael eu newid i’r Saesneg.
Cyfeiriodd at achos diweddar ble y cafodd enw hen blasty Plas Bodegroes ger Pwllheli ei newid i Bromfield Hall ar wefan llety gwyliau – cyn iddi gael ei newid yn ôl – gan ddweud bod angen deddfwriaeth glir i warchod enwau Cymraeg.
Dywedodd Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith, ei fod yn cefnogi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru “yn gyffredinol” ond bod yna wendidau hefyd.
“Rydym yn gweld mai un o ddiffygion mawr y sefyllfa bresennol ydi bod ceisio cael darlun cyflawn o enwau lleoedd Cymraeg yn digwydd yn fympwyol ar sail dibynnu ar aelodau’r cyhoedd i fynd ati i ychwanegu enwau Cymraeg,” meddai.
“Roeddem wedi gobeithio, ar sail y gwaith ymchwil a wnaed hyd yma, y byddai trefn broffesiynol safonol yn cael ei mabwysiadu er mwyn cael y maen i’r wal.
“Mae llwyddiant y fenter wirfoddol hon felly yn ddibynnol ar pa mor barod fydd unigolion i fynd ati i wirio ac ychwanegu enwau lleoedd Cymraeg, a sut wedyn fyddan nhw’n gwybod lle mae diffygion oni bai bod modd gwirio pa enwau Cymraeg sydd eisoes ar y gronfa ddata swyddogol.”
'Cyfoeth'
Dywedodd yr Athro Jones fod dibynnu ar y cyhoedd am eu mewnbwn yn golygu fod yna “drafodaeth gyson yn wyddor y werin.”
“Yr ochr gadarnhaol yw bod defnyddio pobl i gyfrannu i rywbeth fel hyn yn golygu dy fod ti yn gallu cael mwy o enwau, mwy o ddata mewn, llenwi bylchau lle ni ddim yn gwybod be’ mae enwau lleol.
“Mae ‘na gyfoeth sy’n gallu ymddangos fan ‘na.
“Ond wedyn ‘ny mae ‘na gwestiwn ehangach yw p’un ai bod y ddata na’n ddibynadwy.
“Os ‘na rywun yn mynd i fod yn gwirio’r enwau i gael gweld? Be’ sy’n digwydd os ydych chi’n cael pobol sydd yn dechrau rhoi enwau dwl mewn ar gyfer pethau… bydde fe’n codi cwestiwn o ran dilysrwydd yr enwau.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae enwau lleoedd yn cyfleu pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod.
“Bydd y mesurau newydd hyn yn sicrhau bod ein henwau lleoedd Cymraeg - o fynyddoedd chwedlonol fel Cadair Idris i Felin Wen, hen felin sy'n adrodd hanes cymuned fechan - yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ei gwneud yn haws i bawb gymryd rhan."