'Erlid yn annheg' medd y dyn sy'n cael ei amau yn achos Madeleine McCann
Mae'r dyn sydd yn cael ei amau yn achos Madeleine McCann wedi gwrthod trafod y dirgelwch ynglŷn â'i diflaniad.
Mewn cyfweliad gyda Sky News mae Christian B yn dweud nad ydy o yn "teimlo'n ddyn rhydd" ers iddo ddod allan o'r carchar.
Dyw hi ddim yn bosib rhyddhau enw llawn Christian B o dan gyfreithiau preifatrwydd yr Almaen.
Cafodd ei rhyddhau o'r carchar bythefnos yn ôl ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio menyw 72 oed o America.
Dywedodd wrth newyddiadurwr Sky News ei fod eisiau i'r "erlid yn ei erbyn sydd yn annheg ddod i ben a mod i'n cael fy mywyd yn ôl.
"Dwi ddim yn teimlo yn rhydd. Mae gen i'r tag ma rownd fy mhigwrn ac mae'r heddlu yn fy nilyn i rownd 24 awr y dydd felly dwi i ddim yn teimlo'n rhydd."
Mae'r erlynydd Hans Christian Wolters yn dweud bod ganddo dystiolaeth fod Christian B wedi herwgipio a lladd Madeleine McCann. Fe ddiflannodd y ferch fach o'i gwely tra ar wyliau gyda'i theulu yn Portiwgal yn 2007.
Ond does ganddo ddim digon o dystiolaeth meddai i'w arestio neu ei gyhuddo.
Fe deithiodd Christian B i swyddfa'r erlynydd i drio siarad efo Mr Wolters ond chafodd o ddim hawl i fynd mewn. Dywedodd ei fod eisiau ei "help i gael fy mywyd yn ôl. Dwi'n cael fy erlyn gan y cyfryngau a'i fai o ydy hyn. Dwi eisiau iddo fo gymryd cyfrifoldeb."
Dyw Christian B ddim wedi cael ei arestio, ei gyhuddo na'i gwestiynu gan Heddlu'r Almaen am ddiflaniad Madeleine McCann ac mae wedi gwrthod siarad gyda'r Heddlu yn Portiwgal a Heddlu'r Met.
Pan ofynnwyd iddo yn uniongyrchol os oedd o wedi lladd Madeleine McCann dywedodd wrth Sky News: "Mae fy nghyfreithiwr.. wedi dweud wrtha i beidio dweud dim ar y mater ac yn anffodus mae'n rhaid i fi lynu wrth hynny."
Ers cael ei rhyddhau o'r carchar mae Christian B yn gorfod gwisgo tag rownd ei bigwrn. Mae hefyd wedi gorfod rhoi ei basbort i'r heddlu ac yn gorfod cyfarfod gyda gweithwyr o'r gwasanaeth prawf yn gyson.
Mae'n gwadu unrhyw gysylltiad gyda diflaniad Madeleine McCann.