
‘Dim cynlluniau’ i roi'r hawl i aelodau o'r Senedd ddewis Cadeirydd S4C
Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau i ganiatáu i aelodau o Senedd Cymru fod yn rhan o’r broses o ddewis Cadeirydd S4C yn y dyfodol.
Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd wedi galw am gael rôl ffurfiol wrth benodi'r cadeirydd, gan ddweud ei fod yn "anghyson" nad oes gan wleidyddion Cymru unrhyw ddylanwad dros benodi arweinyddiaeth y darlledwr cenedlaethol.
Ond dywedodd Ian Murray, Gweinidog y Cyfryngau Llywodraeth y DU, nad oedd “cynlluniau i newid y broses penodi bresennol”, gan fynnu y dylai un sefydliad ar draws y DU ofalu am faterion darlledu.
Mewn llythyr i’r pwyllgor, dywedodd Mr Murray: “Mae’r dull o reoli darlledu ar draws y DU yn cynhyrchu buddion economaidd sylweddol ac mae darlledu a chynhyrchu yng Nghymru yn elwa o hynny.”
Dywedodd y byddai penderfyniadau dros ddyfodol y darlledwr yn parhau yn San Steffan, ond fe ychwanegodd fod y Llywodraeth yn awyddus i adlewyrchu “budd pob cenedl”.
Dywedodd wrth y pwyllgor bod Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i awgrymu ymgeiswyr posibl, cyn ynghyngori ar benodiad terfynol Delyth Evans yn gadeirydd S4C ym mis Mai. Roedd gan Lywodraeth Cymru hefyd gynrychiolydd ar banel asesu ymgynghorol yn ystod y broses.
“Ein profiad ni… oedd bod y trefniadau hyn wedi gweithio’n dda a bod cydweithio ac ymgynghori effeithiol wedi bod,” meddai Mr Murray.
Fe gyfeiriodd hefyd at gytundeb gyda Llywodraeth Cymru yn 2011 sy’n cynnwys ymrwymiad i ymgynghori â gweinidogion Cymru ar benodiadau i fyrddau S4C a’r BBC.
Dywedodd Mr Murray bod S4C yn “ganolbwynt i fywyd yng Nghymru” ac yn gwneud “cyfraniad hynod werthfawr i’r economi greadigol".
Gan ddadlau bod y system bresennol yn darparu digon o graffu ac atebolrwydd, dywedodd fod gan bwyllgor diwylliant y Senedd hefyd yr hawl i alw ar gadeirydd S4C i roi tystiolaeth.

'Anghysondeb'
Ond dywedodd cadeirydd y pwyllgor diwylliant, Delyth Jewell, y byddai lefel uwch o graffu ac atebolrwydd ar berfformiad y darlledwr pe bai’r Senedd yn cael rhagor o gyfrifoldebau.
Dywedodd Ms Jewell: “Er ein bod yn cymeradwyo penodiad Delyth Evans, credwn y dylai’r pwyllgor fod wedi cael rôl ffurfiol yn ymwneud â phenodiad cadeirydd S4C.
“Yn wir, roeddem wedi galw o’r blaen am i’n pwyllgor – a’r Senedd – gael y cyfrifoldebau yma, ac mi oedd yn farn a gefnogwyd yn drawsbleidiol.”
Gan ysgrifennu at ysgrifennydd diwylliant y DU, Lisa Nandy, awgrymodd cadeirydd y pwyllgor diwylliant y dylai'r pwyllgor gynnal gwrandawiad gyda’r ymgeisydd dewisol, cyn eu bod yn cael eu penodi.
Ysgrifennodd Ms Jewell: “Mae’n anghysondeb nad yw pwerau dros yr unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy’n gweithredu’n unig yn yr iaith Gymraeg yn eistedd yn y genedl lle mae’r iaith honno’n cael ei siarad yn bennaf.”
Fe wnaeth hefyd alw am sicrhau ariannu digonol i S4C. Mewn adroddiad y llynedd, cynigiodd y pwyllgor fformiwla i atal toriadau termau real i gyllideb S4C.
“Am lawer rhy hir, mae dyfodol cyllidebu S4C wedi bod yn ansicr," meddai.
"Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau cyllid S4C mewn termau real tua 40%. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu ag S4C am ymateb.