Ffrae yn y Senedd dros iaith ‘Trump-aidd’ Prif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhuddo Plaid Cymru o fod yn “rhy sensitif” ar ôl iddyn nhw ei chyhuddo o ddefnyddio iaith “Trump-aidd” amdanyn nhw yng nghynhadledd y Blaid Lafur.
Roedd Eluned Morgan wedi dweud yng nghynhadledd ei phlaid yn Lerpwl ddydd Sadwrn bod Plaid Cymru a phlaid Reform UK “yn wenwyn gwahanol o’r un botel”.
Dywedodd bod y ddwy blaid sy'n cynrychioli "cenedlaetholdeb mewn gwahanol fathau o ffyrdd".
Wrth holi’r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod yr iaith "Trump-aidd" a ddefnyddiwyd gan y Prif Weinidog i'w disgrifio "yn anaddas”.
“Lle rydym ni’n hyrwyddo undod, mae Reform eisiau creu rhaniadau yn ein cymunedau,” meddai.
“Lle rydyn ni'n eirioli dros Gymru i sefyll ar ei ddwy droed ei hun, maen nhw'n fflyrtio gyda'r syniad o reolaeth uniongyrchol gan San Steffan, gan dawelu llais Cymru.
"Lle rydyn ni'n addo amddiffyn ein diwylliant a'n hiaith, maen nhw'n dweud nad yw'n flaenoriaeth.
"Mae hi wedi camddarllen naws y genedl yn sylfaenol ac wedi dod yn arweinydd gwan o blaid wannach.”
Wrth ymateb yn y Senedd dywedodd Eluned Morgan bod “Reform eisiau rhannu ein cymunedau, a Plaid eisiau rhannu ein cenhedloedd”.
“Mae Reform eisiau beio pobl o dramor a Plaid eisiau beio San Steffan.”
Ychwanegodd: “O diar, rydych chi’n sensitif, tydach?
“Mae'n debyg bod angen i ni atgoffa ein hunain beth mae eich plaid wedi ymroi iddo am y 100 mlynedd diwethaf, sef annibyniaeth, ac mae annibyniaeth yn ymwneud â rhaniadau.
“Mae'n ymwneud â'n gwahanu ein hunain oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig.”