Achos Nathan Gill: Wfftio awgrym bod ‘cwestiynau i’w hateb’ gan ymgeisydd yng Nghaerffili

Llun: Yui Mok/PA
Nathan Gill

Mae Reform UK wedi wfftio awgrym gan Brif Weinidog Cymru bod “cwestiynau i’w hateb” gan eu hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili am ei gysylltiad gyda chyn arweinydd y blaid yng Nghymru.

Plediodd Nathan Gill, a fu’n arweinydd Reform yng Nghymru am gyfnod byr yn 2021 ac a adawodd y blaid yn fuan wedyn, yn euog yn yr Old Bailey yr wythnos diwethaf i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo.

Digwyddodd y troseddau rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.

Roedd ymgeisydd presennol Reform UK yng Nghaerffili, Llŷr Powell, yn gweithio i Nathan Gill yn y gorffennol ond daeth ei gyflogaeth i ben yn 2017, flwyddyn cyn i’r troseddau ddigwydd.

Wrth ymateb ddydd Mawrth, dywedodd Reform UK bod sylwadau'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn dystiolaeth fod “y Blaid Lafur Gymreig yn cael eu gwrthod gan y cyhoedd ac yn methu yn yr arolygon barn”. 

“Nid oes lle i’r math hwn o wleidyddiaeth fudr yng Nghymru,” meddai llefarydd.

Sylwadau Eluned Morgan

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog, fe awgrymodd Eluned Morgan y gallai Reform fod yn “fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol”.

"Roedden ni'n gwybod bod Reform yn fygythiad yng Nghymru, bod posibilrwydd gwirioneddol o lygredd ac anhrefn, ac mae gennym ni dystiolaeth o hynny nawr drwy rywun a oedd yn gyn-arweinydd Reform yng Nghymru,” meddai.

"Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein dychryn gan weithredoedd cyn-arweinydd Reform yng Nghymru.

“Unigolyn a oedd yn aelod o'r siambr hon, un o saith aelod a etholwyd i'r blaid dan arweiniad Nigel Farage.

"Erbyn diwedd y tymor, roedd chwech ohonyn nhw wedi gadael.

"Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cydnabod bod Plaid Brexit, unwaith eto, dan arweiniad Nigel Farage yn flaenorol, wedi pleidleisio yn erbyn mesurau a gynlluniwyd i wrthweithio camwybodaeth Rwsiaidd.

“Mae hyn yn beth difrifol iawn.

“Ac rwy'n credu bod cwestiynau i'w hateb gan bobl, yn enwedig ymgeisydd Reform yn etholiad Caerffili, Llŷr Powell, a gyflogwyd fel cynghorydd i Gill.

"Ac rwy'n credu bod angen i ni wybod, beth oedd e'n ei wybod? Pryd oedd e'n ei wybod? A beth wnaeth e ei adrodd?"

Troseddau Nathan Gill

Cyfaddefodd Nathan Gill, 52, o Ynys Môn, ddydd Gwener i wyth cyhuddiad yn ymwneud â llwgrwobrwyo tra’r oedd yn aelod o Senedd Ewrop.

Honnir iddo wneud datganiadau yn Senedd Ewrop, mewn erthyglau barn ac ar wasanaethau newyddion, fel 112 Ukraine, a oedd yn “gefnogol i naratif penodol” a fyddai “er budd i Rwsia ynghylch digwyddiadau yn Wcráin”.

Clywodd y llys fod Oleg Voloshyn o Wcráin wedi gofyn i Nathan Gill wneud datganiadau penodol ar o leiaf wyth achlysur yn gyfnewid am arian.

Gwadodd Gill un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llwgrwobrwyo yn ystod gwrandawiad yn yr Old Bailey ddydd Gwener.

Dywedodd Mark Heywood KC ar ran yr erlyniad fod pledio'n euog i wyth cyhuddiad yn “foddhaol” o safbwynt yr erlyniad am ei fod yn adlewyrchu’r gweithgareddau troseddol.

Cafodd Mr Gill ei ethol yn aelod Ukip o Senedd Ewrop yn 2014 a daeth ei rôl i ben pan adawodd y DU'r Undeb Ewropeaidd yn 2020 - erbyn hynny roedd yn Aelod o Senedd Ewrop dros Blaid Brexit.

Roedd hefyd yn aelod o'r Senedd rhwng Mai 2016 a Rhagfyr 2017.

Arweiniodd ymgyrch etholiadol Reform UK yn etholiad Senedd Cymru yn 2021 ond gadawodd y blaid yn fuan ar ôl yr ymgyrch honno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.