Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Undeb yn bryderus iawn am unrhyw effeithiau 'negyddol'

Tractor

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (C.Ff.C) ymhellach er mwyn osgoi “sgil effeithiau negyddol” ar ffermio yng Nghymru.

Dyna’r alwad gan undeb amaeth NFU Cymru, wedi i’r Llywodraeth ryddhau ffigyrau newydd yn edrych ar effeithiau posib y cynllun ar ffermwr yng Nghymru.

Fe fydd y cynllun, sydd yn dod i rym yn 2026, yn cynnig incwm sylfaenol i ffermydd yng Nghymru.

Fe fydd yn cymryd lle Cynllun y Taliad Sylfaenol, sydd wedi cael ei ddosbarthu gan y Llywodraeth ers 2021 a chyn hynny, gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r cynllun yn cynnig taliad cyffredinol i ffermwyr, yn werth £238 miliwn i'r Llywodraeth, tra y bydd £102 miliwn yn cael ei gynnig fel taliadau "opsiynol a chydweithredol."

Ffermio cynaliadwy

Byddai’r taliadau ychwanegol yn cael eu dosbarthu pe byddai ffermwyr yn ymrwymo i ystod eang o fesurau ffermio cynaliadwy, gan gynnwys goflau am goetiroedd a chynefinoedd yr eu tir.

Ond yn ôl yr achos busnes yr C.FF.C,  sydd wedi ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ddydd Mawrth, fe allai’r cynllun arwain at leihad o hyd at 16% mewn incwm i ffermydd.

Mae’r modelu economaidd sydd wedi eu cyhoeddi hefyd yn rhagweld y bydd gostyngiad o 5% mewn da byw a gostyngiad o 4% ar nifer y weithwyr fferm.

'Mwy o waith'

Yn ôl Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, mae’r rhai o’r sgil effeithiau posib gafodd eu nodi yn yr adroddiad newydd yn “bryderus iawn.”

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r modelu economaidd yn amcangyfrif gostyngiad yn nifer y swyddi, incwm a chynhyrchiant o’i gymharu â’r fersiwn flaenorol o’r modelu.

“Ond o’n safbwynt ni, mae’r ffigyrau yn parhau i fod yn bryderus iawn.

“Felly, mae mwy o waith i’w wneud i gefnogi ffermio Cymru, yn ogystal â’r busnesau a’r cymunedau yr ydym yn eu cynnal, wrth weithio i sicrhau bod ein ffermydd yn cynhyrchu digon i gefnogi’r sector bwyd yng Nghymru, sydd werth £10 biliwn.”

Cafodd y cynllun presennol, a gyflwynwyd dros yr haf, ei groesawu gan yr undeb, a hynny ar ôl i’r Llywodraeth ei ddiwygio o’r cynnig gwreiddiol.

Roedd y cynnig blaenorol wedi’i feirniadu’n hallt ar ôl cynnwys amod y dylid pob fferm orchuddio o leiaf 10% o’r tir gyda choed.

Fe ychwanegodd Mr Jones: “Rydym bob amser wedi mynnu y dylai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddarparu o leiaf yr un lefel o sefydlogrwydd economaidd i ffermio Cymru ag y mae’r Cynllun Taliad Sylfaenol yn ei wneud ar hyn o bryd. 

“Ni ddylai symud i gynllun newydd adael ffermwyr mewn sefyllfa waeth yn ariannol.

“Gan edrych ymlaen, dylai’r llywodraeth nesaf gynyddu’r gyllideb hon i o leiaf £500m i ystyried chwyddiant ac i helpu i gyflawni ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer bwyd, hinsawdd, amgylchedd, cymunedau ac iaith.”

'Sylfaenol wahanol'

Wrth gyhoeddi achos busnes y cynllun, dywedodd y Dirprwy Prif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Amaeth a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies AS, y bydd y cynllun newydd yn sicrhau “gwell gwerth am arian" na’r system flaenorol.

“Y manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a ddaw o'r Cynllun yw'r rheswm pam ein bod wedi ymrwymo hyd at £238m i'r Taliad Cyffredinol, ac o leiaf £102m ar gyfer yr Haenau Opsiynol a Chydweithredol yn 2026.”

Fe ychwanegodd bod yngynghori gyda’r sector yng Nghymru wedi arwain at ddiwygio sylweddol i’r cynllun.

“Rwy'n cydnabod bod y Cynllun yn golygu newidiadau i chi.

"Mae’n sylfaenol wahanol i'r Cynllun Taliad Sylfaenol, ond mae'n gwbl angenrheidiol ar gyfer llwyddiant hirdymor ffermio, cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd.

“Byddwn yn monitro effaith y Cynllun ac yn ychwanegu at ein tystiolaeth wrth iddi ddod i'r amlwg i sicrhau bod y Cynllun yn llwyddiant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.