
'Fatha therapi': Dynes o Gaernarfon yn sôn sut mae cerddoriaeth wedi ei helpu
Mae dynes ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn byw mewn hostel i bobl ifanc yn dweud bod creu cerddoriaeth wedi bod o help mawr iddi yn ei bywyd.
Ac mae’n breuddwydio ynglŷn â'r posibilrwydd o fod yn gantores ryw ddiwrnod.
"A girl can dream,” meddai Mercedez, wnaeth symud i Hafan, tŷ i wyth o bobl ifanc yng Nghaernarfon, am fod cartref ei mam yn "rhy crowded" gyda 10 o bobl yn byw yno.
Mae hi wedi elwa o gael profiadau efo tîm creadigol elusen gan gynnwys recordio cân mewn stiwdio gyda chymorth un o'r staff, y gantores Malan.
Mae cerddoriaeth yn help mawr i Mercedez meddai.
“Mae o fatha therapi i fi. Mae o jest yn fatha relaxio fi, cadw mind fi off bob dim.”
Yr elusen GISDA sydd yn rhedeg Hafan ac mae'n dathlu 40 mlynedd ers cael ei sefydlu eleni. Mae GISDA yn cefnogi pobl ifanc bregus a digartref yng Ngwynedd.
Maent yn cynnig ystod o wasanaethau fel helpu efo iechyd meddwl, sgiliau byw yn annibynnol a mynediad at addysg.
'Day in, day out'
Mae'r gyfres GISDA: Drws i'r Digartref ar S4C yn olrhain hanes rhai o'r bobl ifanc sydd yn derbyn cymorth gan yr elusen.
Pan mae Mercedez yn symud i Hafan gyntaf mae'n ysu i fynd adref. Dydy hi ddim yn licio bod ar ei phen ei hun am ei bod hi'n cael amser i feddwl.
"Meddwl am betha dwi methu siarad amdan," meddai.

Mae'n dweud yn ystod ei phlentyndod na chafodd hi'r un cyfleoedd a phlant eraill.
"Trips ysgol, holides hâf. Gynno fi neb i edrych fyny i. Dwi’n mynd i gyd yn based off be dwi di ddysgu. Be dwi di gorfod neud.
"Dwi erioed wedi gedru sbio i fyny ar neb. Dwi methu. Don’t get me wrong. Dwi’n dallt bod ma siblings fi yn edrych i fyny arna fi.
"O’n i isio rwbath felna a dwi erioed wedi gael o.”
Mae Mercedez yn cael cymorth i'w helpu i reoli faint mae'n yfed a smocio canabis. Mae'n dweud bod hi'n cael cyfnodau o wneud hyn a'i bod yn fwy agored am ei theimladau pan nad ydy hi yn sobr.
“Os dwi yn yfad ia, nai ddim stopio yfad. Mond because nai teimlo’n s**t os dwi’n stopio yfad. So pan dwi’n yfad dwi usually yn yfad am dau, tri wythnos strêt. Day in, day out.”
'Lyfio pwy ydw i'
Mae perthynas Mercedez efo'i mam yn gwella ar ôl iddi symud i ffwrdd o'i chartref gan eu bod nhw'n ffraeo llai a'i bod hi wedi aeddfedu fel person. Mae'n dal i fynd i weld ei theulu yn aml ac yn cael amseroedd mwy "sbeshial" efo nhw.
"Ma mam di troi rownd a deud ma hi yn proud o fi."
Yn ôl Mercedez, mae GISDA wedi ei helpu i ddod i delerau da gyda hi ei hun.
“Ti'm yn goro licio be dwi yn neud, ti’m yn goro licio pwy ydw i as long as dwi’n lyfio pwy ydw i that’s all that matters. Dwi’n meddwl dyna sy’n dda am GISDA. Ma nhw yn gedru helpu chdi i sylwi hynna.”
Mae rhaglenni GISDA: Drws i'r Digartref i'w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer ar hyn o bryd.