‘Siom’ bod achosion o’r Tafod Glas wedi eu canfod yng Nghymru

Huw Irranca-Davies

Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru wedi dweud ei fod “yn destun siom” bod achosion o glefyd y Tafod Glas wedi eu darganfod yng Nghymru.

Fe gafodd dau achos o’r clefyd eu cadarnhau ddydd Gwener gan y Prif Swyddog Milfeddygol, bron i flwyddyn ers cadarnhau’r achosion diwethaf yng Nghymru.

Fe gafodd un achos newydd o’r tafod glas ei ddarganfod ar fustach ar fferm ger Llanandras, Powys, ac un arall ar fuwch ar ddaliad ger Cas-gwent, Sir Fynwy.

Daw’r achosion ddyddiau yn unig ar ôl i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau ar symud da byw o Loegr i Gymru ar 21 Medi.

Mae'r rheolau newydd yn golygu y gall anifeiliaid sydd wedi cwblhau cynllun brechu, ac sydd heb ddangos unrhyw arwyddion o salwch, symud o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr i Gymru heb brawf cyn symud.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwledig Huw Irranca-Davies AS bod angen ymchwilio i darddiad yr achosion hyn cyn cyhoeddi unrhyw gyfyngiadau pellach.

“Mae’r newyddion bod y clefyd wedi taro Cymru yn destun siom,” meddai.

“Ond mae ein hymdrechion cyfunol wedi rhoi amser gwerthfawr i geidwaid da byw frechu eu hanifeiliaid ac i fod yn barod ar gyfer y Tafod Glas.”

Ychwanegodd: “Bydd y ddau ddaliad yn cael eu gosod o dan gyfyngiadau, pan na fydd da byw yn cael eu symud o'r daliad nac iddo ac eithrio o dan drwydded benodol, nes y ceir canlyniad yr ymchwiliadau. 

“Bydd yr angen am ragor o fesurau rheoli clefydau yn dibynnu ar y dystiolaeth a geir trwy'r ymchwiliadau, sy'n cynnwys samplu a phrofi da byw ac archwilio symudiadau i ac o'r safleoedd dan sylw.

“Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y clefyd, ac rwy'n annog ceidwaid anifeiliaid i drafod gyda'u milfeddyg ynghylch brechu eu buchesi a'u diadelloedd.”

Roedd y clefyd wedi dod i'r amlwg ar y bustach o Bowys yn sgil cynnal prawf ar ôl symud, gyda sampl swyddogol wedi hynny'n cadarnhau bod y BTV-3 arno, meddai. 

Fe gafodd prawf BTV-3 ei gynnal ar y fuwch o Sir Fynwy ar ôl i filfeddyg y fferm roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) bod arwyddion clinigol y Tafod Glas arni. Cafwyd canlyniad positif i’r prawf hwnnw.

Ym mis Medi'r llynedd, cafodd y Tafod Glas seroteip 3 (BTV-3) ei ddarganfod mewn tair dafad a gafodd eu symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.

Y mis canlynol, fe gafodd achos arall ei gofnodi ar fferm ar Ynys Môn, lle cafodd yr haint ei ddarganfod mewn anifail a gafodd ei symud o ddwyrain Lloegr.

Fe gafodd y cyfyngiadau rheini eu codi ym mis Tachwedd y llynedd.

Beth yw tafod glas?

Mae’r tafod glas yn firws yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybedyn bach sy'n brathu.

Mae'n effeithio ar ddefaid, gwartheg, cilgnowyr eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.

Mae’n effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mewn achosion difrifol, gall achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid heintiedig.

Un o’r symptomau yw lliw glas ar dafodau anifeiliaid oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau ar symud anifeiliaid am gyfnod hir a masnach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.