Dargyfeirio hediad o Gaerdydd ar ôl i'r awyren daro aderyn
Mae awyren oedd yn teithio o Gaerdydd i Cyprus wedi gorfod dargyfeirio ar ôl taro aderyn.
Roedd yn rhaid i’r awyren Boeing 737 o gwmni TUI lanio ym Maes Awyr Birmingham am 17:30 ddydd Sul.
Mae rhai trigolion sydd yn byw yn Abertawe yn dweud eu bod nhw wedi gweld yr awyren yn cylchdroi yn yr awyr. Dywedodd rhai bod sŵn anarferol i’w glywed o’r awyren.
Mewn datganiad, dywedodd cwmni TUI Airlines, "ni fethodd unrhyw injan."
Dywedodd llefarydd: "Bu gwrthdrawiad ag aderyn ar ôl i'r awyren esgyn ac roedd y dargyfeiriad a ddilynodd yn weithdrefn ragofalus arferol."
Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd eu bod yn "ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud â hediad TOM6754 o Gaerdydd i Paphos."
"Diogelwch ein teithwyr yw ein prif flaenoriaeth. Cafodd yr awyren ei ddargyfeirio i Faes Awyr Birmingham (BHX) a glaniodd yn ddiogel am tua 17:30."