Marwolaethau Covid-19 Cymru ar eu huchaf ers diwedd Mawrth
Mae nifer y marwolaethau wythnosol oherwydd Covid-19 ar eu huchaf yng Nghymru ers diwedd Mawrth 2021.
Roedd nifer y rhai a fu farw yn ystod yr wythnos hyd at 6 Awst yn 22, o’i gymharu â 13 yn ystod yr wythnos flaenorol.
Mae’r nifer sydd wedi marw felly ar eu huchaf ers 26 Mawrth 2021, pan fu farw 32 o bobl.
Er mai dyma’r ffigwr uchaf ers pedwar mis, mae'n parhau’n is na’r hyn a welwyd yn ystod yr ail don.
O'i gymharu, cafodd 467 o farwolaethau eu cofnodi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr wythnos hyd at 22 Ionawr 2021.
Hyd at yr wythnos hon, fe ostyngodd nifer y marwolaethau wrth i fwy o bobl dderbyn y brechlyn Covid-19.
O'r holl farwolaethau yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos hyd at 6 Awst, roedd 5.2% yn ymwneud â Covid-19.
Roedd nifer y marwolaethau'n uwch na’r cyfartaledd dros y bum mlynedd diwethaf, gyda 62 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru.
Daw hyn wrth i’r gyfradd achosion Covid-19 fesul 100,000 o bobl fod yn 184.3 ar gyfartaledd yng Nghymru.
Cafodd 761 o achosion eu cadarnhau ddydd Mawrth, a ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.