Lloegr yn ennill Cwpan Rygbi'r Byd y Menywod
Mae Lloegr wedi ennill Cwpan Rygbi'r Byd y Menywod ar ôl curo Canada yn y rownd derfynol.
Llwyddodd Lloegr i ennill o 33-13 yn erbyn Canada brynhawn Sadwrn.
Fe gafodd pob tocyn ar gyfer y rownd derfynol yn Twickenham, sydd yn dal 82,000 o bobl, ei werthu gan olygu mai dyma'r dorf fwyaf erioed i wylio gêm rygbi menywod.
Fe gafodd y record flaenorol hefyd ei gosod yn Stadiwm Twickenham pan y gwnaeth 58,498 wylio Lloegr yn curo Ffrainc yn y Chwe Gwlad yn 2023.
Lloegr ydy'r rhif 1 yn rhestr detholion y byd, gyda Canada yn ail.
Roedd Lloegr wedi ennill eu 32 gêm ddiwethaf cyn y rownd derfynol.
Dyma'r trydydd tro i Loegr ennill Cwpan y Byd.