Y Rhyl: Gwasanaethau brys yn delio gyda digwyddiad

Ffordd Derwen, Y Rhyl

Mae’r gwasanaethau brys yn delio gyda digwyddiad yn Y Rhyl brynhawn Sadwrn.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n bresennol mewn digwyddiad sy’n mynd ymlaen ar Ffordd Derwen yn y dref.

Mae’r llu wedi gosod cordon o 100 metr ar hyd y ffordd tra bod y gwasanaethau brys yno.

Mae’r llu wedi gofyn i’r cyhoedd osgoi’r ardal ac mae trigolion wedi cael cyngor i aros yn eu cartrefi wrth i’r heddlu ddelio gyda’r digwyddiad.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.