Dartiau: Cymru’n Bencampwyr Byd y WDF

Tîm darts Cymru WDF

Mae tîm dartiau Cymru wedi eu coroni’n Bencampwyr Byd y WDF.

Fe wnaeth Cymru guro Japan o 9-7 yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Seoul, De Korea ddydd Sadwrn.

Gyda’r gêm yn gyfartal o 7-7, fe lwyddodd Llew Bevan a Dai Davies i ennill eu cymalau trwy orffen gyda 56 a 57 i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Roedd y tîm oedd yn cynnwys Bevan, Davies, Mark Challenger a Liam Meek wedi curo Gogledd Iwerddon, Canada a Sweden ar y ffordd i’r rownd derfynol.

Llun: Facebook/Darts Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.