Cwpan Ryder: Ewrop ar y blaen ar ddiwedd y diwrnod cyntaf

Luke Donald / Tîm Ewrop

Tîm Ewrop sydd ar y blaen ar ddiwedd diwrnod cyntaf Cwpan Ryder. 

Llwyddodd Ewrop i fynd ar y blaen o 3-1 yn erbyn America yn y sesiwn yn y bore, a sicrhau buddugoliaeth o 2½-1½ yn y prynhawn. 

Roedd hynny yn golygu fod gan Ewrop fantais o 5½-2½ wedi'r diwrnod cyntaf, cyn i'r gystadleuaeth ail-ddechrau ddydd Sadwrn. 

Mae Ewrop yn gobeithio am eu buddugoliaeth oddi cartref gyntaf ers 2012. 

Mae'r gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal yn Efrog Newydd.

Luke Donald ydy capten Tîm Ewrop, a Keegan Bradley ydy capten tîm America.

Mae Luke Donald yn ymwybodol o bwysigrwydd dechrau cryf wrth i'w dîm geisio amddiffyn y teitl a gafodd ei ennill yn Rhufain yn 2023.

"I ennill fore Gwener...roedd hynny yn enfawr," meddai. 

Roedd Arlywydd UDA Donald Trump hefyd yn bresennol yn y gystadleuaeth ddydd Gwener.

Oherwydd bod Ewrop wedi ennill yn Rhufain yn 2023, dim ond 14 pwynt sydd eu hangen arnyn nhw i'w chadw.

Mae angen 14.5 pwynt ar yr Unol Daleithiau i ennill yn gyfangwbl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.