Afon gyfan wedi 'diflannu' yn dilyn ‘llyncdwll’ yn Llanelli
17/08/2021Mae llyncdwll posibl wedi “llyncu holl lif” afon yn Llanelli, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywed Wales Online fod yr Afon Lliedi wedi diflannu ddydd Llun yn sgil y llyncdwll o dan bont yn ardal Llanerch.
Cafodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru eu galw i’r ardal er mwyn gosod pwmp i gludo dŵr o amgylch y twll ac yn ôl i mewn i sianel yr afon.
Mae tua 50 o bysgod meirw wedi’u gweld yng nghyffiniau’r twll hyd yn hyn.
Maen nhw’n annog unrhyw un sydd wedi sylwi ar rywbeth a allai fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Darllenwch y stori’n llawn yma.

