Rygbi: Y Gymraes sy'n gobeithio ennill Cwpan y Byd i Loegr

Rygbi: Y Gymraes sy'n gobeithio ennill Cwpan y Byd i Loegr

Fe fydd Cymraes yn gobeithio codi tlws Cwpan Rygbi'r Byd ddydd Sadwrn, a hynny fel rhan o dîm Lloegr.

Fe wnaeth Megan Jones dyfu i fyny yng Nghaerdydd, gan chwarae rygbi i dimau Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a thîm merched dan 15 Gleision Caerdydd.

Ond roedd ei llwybr i gyrraedd y lefel uchaf yn y byd rygbi yn golygu ei bod hi'n teimlo'r angen i deithio dros y bont a chwarae yn Lloegr.

Nawr fe fydd hi'n chwarae yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd am yr eildro. Ond nid yw ei thaith yno wedi bod yn hawdd.

Bu farw tad Megan, Simon ym mis Awst y llynedd, lai na saith mis ers iddo gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint. 

Bedwar mis yn ddiweddarach roedd ei mam, Paula wedi marw hefyd.

Mewn cyfweliad yn y Gymraeg â rhaglen Newyddion S4C dywedodd Megan Jones bod y flwyddyn wedi honno yn un heriol.

“Yn 2024 nes i colli mam a dad fi, a oedd e’n blwyddyn anodd i fod yn onest," meddai.

“Ond i ennill y Cwpan y Byd ‘ma, bydd e’n popeth i mi, rhywbeth fi methu rhoi geiriau ar.

“A bydd fy rhieni mor falch i gweld merch fach nhw yn ennill Cwpan y Byd."

Image
Megan Jones yn chwarae dros merched Gleision Caerdydd
Megan Jones yn chwarae dros merched Gleision Caerdydd. (Llun: Asiantaeth Huw Evans.)

'Cymorth'

Mae Megan Jones yn gallu chwarae i Loegr gan fod ei mam Paula yn Saesnes.

Fe aeth hi i Goleg Hartpury ac yna i Brifysgol Loughborough, lle mae llwybr i chwarae rygbi proffesiynol yn Lloegr.

Yn 18 oed fe chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Loegr yn erbyn Seland Newydd.

Ond er bod ei gyrfa broffesiynol i gyd wedi ei wreiddio yn Lloegr, mae Megan yn falch iawn o'i Chymreictod.

“O fi wedi dewis i chwarae i’r Red Roses dros Cymru oherwydd jyst y cyfleoedd o’dd fi ‘di cael fel 18 year old," meddai.

“Oedd lot mwy o gymorth dros y bont, lot mwy o gymorth i bod yn proffesiynol hefyd.

“Ac i gael y gyrfa ‘ma roedd rhaid i mi neud penderfyniad i chwarae i’r Red Roses."

Ychwanegodd: “Mae gwreiddiau fi yn bwysig, es i i Glantaf, hiwj ysgol rygbi. Lot o bobl ‘di dod allan i chwarae yn broffesiynol.

“I bod yn Cymraes, mae hynny’n bwysig i fi hefyd, mae gen i lot o passion, lot o falchder a lot o fire hefyd yn fy mol."

Bydd Lloegr a Canada yn wynebu ei gilydd yn Stadiwm Allianz yn Llundain am 16:00 ddydd Sadwrn.

Enillodd Canada 42-0 yn erbyn Cymru yn ystod y gemau grŵp ar 30 Awst.

Dydyn nhw erioed wedi ennill Cwpan y Byd ac fe gollon nhw yn erbyn Lloegr yn y rownd derfynol yn 2014.

2014 oedd y tro diwethaf i Loegr ennill y gystadleuaeth, ac maen nhw wedi colli yn y rownd derfynol yn y ddwy gystadleuaeth ddiwethaf yn erbyn Seland Newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.