Cyllideb Cymru: Jane Dodds am weld 'cannoedd o filiynau' at ofal cymdeithasol

Jane Dodds y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dweud y byddai am weld “cannoedd o filiynau” ar gyfer gofal cymdeithasol fel rhan o unrhyw gytundeb i basio cyllideb Llywodraeth Cymru.
 
Mae Jane Dodds wedi cynnal sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru wrth i weinidogion geisio cefnogaeth i sicrhau bod eu cynlluniau gwariant yn cael eu pasio yn y Senedd yn Ionawr 2026.
 
Fe ddywedodd wrth Newyddion S4C ei bod eisiau sicrhau bod gofalwyr yn cael eu “talu’n well”.
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth ymateb eu bod nhw wedi "ymroi i weithio gyda phob plaid yn y Senedd i basio’r Gyllideb".
 
Mae Jane Dodds -  yr unig Aelod Democratiaid Rhyddfrydol ar lawr y Senedd - ymysg y rhai sydd wedi siarad â gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Ceidwadwyr a’r Aelod Annibynnol Russell George.
 
Mae gan Lafur 29 o’r 60 sedd yn y Senedd, ac felly mae angen cymorth o leiaf dau aelod arall i basio’r gyllideb werth £27 biliwn.
 
“Mae argyfwng mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
 
"Rydym am weld miliynau’n mynd tuag ato. Y llynedd fe wnaethon ni sicrhau 30 miliwn, ac rydym am weld llawer, llawer mwy yn mynd i hynny,
 
“Ac fe fyddan ni’n gweithio gydag unrhyw blaid nawr neu yn y dyfodol sy’n gallu datrys yr argyfwng mewn gofal cymdeithasol trwy sicrhau ei fod yn cael ei ariannu gan filiynau, os nad cannoedd o filiynau, er mwyn sicrhau bod ein gofalwyr yn cael eu talu’n well, bod ein pobl yn cael eu gofalu’n well, a bod gennym syniad gwell o urddas ymhlith y boblogaeth.
 
“Hoffwn ni hefyd weld gofal plant am ddim i blant o naw mis i bedair blynedd ledled Cymru.
 
“Parhad hefyd gyda’r tâl bws o £1 sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus ac sydd bellach yn cael ei roi ar waith o blant 5 oed hyd at 15, tra cyn hynny roedd ar gyfer 16-21 oed.
 
“Ond y peth mawr yw’r argyfwng mewn gofal cymdeithasol.”
 
Image
Russell George
Russell George
 
Trafodaethau
 

Fis Chwefror, fe wnaeth Jane Dodds gyrraedd cytundeb o £100 miliwn i basio cynlluniau gwariant y flwyddyn honno ar ôl sicrhau £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, cynllun tocyn bws am £1 i bobl ifanc, a deddfwriaeth i wneud rasio milgwn yn anghyfreithlon.

Bydd y Senedd yn pleidleisio ar y gyllideb ym mis Ionawr.

Os na fydd cytundeb wedi ei daro, fe allai weld Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i weithredu ar 75% o gyllid y flwyddyn flaenorol.

Mae Newyddion S4C yn deall bod gofal cymdeithasol yn ganolog i ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiadau mis Mai, ac y bydd hynny’n ganolog i unrhyw drafodaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddatgelodd BBC Cymru fod yr aelod annibynnol Russell George wedi cael sgyrsiau am y gyllideb gyda’r llywodraeth.

Roedd cyn-aelod Ceidwadol Sir Drefaldwyn am weld cyllid ychwanegol i alluogi cleifion ym Mhowys i gael triniaeth ysbyty yn Lloegr yn gynt ac roedd hefyd yn cefnogi galwadau’r Ceidwadwyr i ddiddymu'r dreth trafodiadau tir (land transation tax) - sy’n debyg i’r dreth stamp yn Lloegr.

Fe gafodd Mr George ei gyhuddo o droseddau betio yn ymwneud â'r etholiad cyffredinol y llynedd. Fydd e ddim yn sefyll yn yr etholiad fis Mai.

Fis Medi fe wnaeth y Llywodraeth gynnal trafodaethau gyda’r Ceidwadwyr Cymreig, sydd am weld Bae Caerdydd yn cael gwared ar y dreth trafodiadau tir.

Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi dweud nad yw am gael gwared ar y dreth Trafodiadau Tir ond ei fod yn agored i adolygu'r trothwyon y caiff ei thalu arnynt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.