Plentyn dwy oed wedi marw yng Nglannau Dyfrdwy
17/08/2021
Newyddion S4C
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i blentyn dwy oed farw wedi digwyddiad yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint.
Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i ddigwyddiad mewn eiddo ym mhentref Garden City ychydig wedi 22:00 nos Sadwrn.
Fe gludwyd y plentyn i ysbyty yng Nghaer, cyn ei symud i ysbyty plant Alder Hay yn Lerpwl, lle bu farw nos Lun.
Dywed yr heddlu bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd, ac maen nhw’n gweithio gydag asiantaethau eraill i ymchwilio’r amgylchiadau.
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod Z119454.