Rhagolwg ar gemau ddydd Sadwrn y Cymru Premier JD
Does dim newid ar frig yr uwch gynghrair yn dilyn buddugoliaethau i’r pedwar uchaf yng nghanol wythnos.
Mae’n hynod o dynn ar frig y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri uchaf, ac mae’n stori debyg ar y gwaelod hefyd, gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri isaf.
Y Seintiau Newydd sydd wedi camu i’r copa ar wahaniaeth goliau yn dilyn pedair buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair, gyda’r Cofis a Phen-y-bont yn dynn ar sodlau’r pencampwyr.
Pen-y-bont (3ydd) v Bae Colwyn (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont wedi cau’r bwlch ar y ddau ar y brig gyda dim ond pwynt yn gwahanu’r tri uchaf wedi i dîm Rhys Griffiths ennill eu tair gêm gynghrair ddiwethaf.
James Crole oedd seren y sioe i’r ymwelwyr ar Gampws Cyncoed nos Fawrth, yn taro hatric yn erbyn y myfyrwyr a chreu’r unig gôl arall (Met 0-4 Pen).
Pen-y-bont sydd â record amddiffynnol orau’r gynghrair ar ôl ildio dim ond chwe gôl mewn naw gêm hyd yma.
Roedd hi’n noson rwystredig i Fae Colwyn nos Fawrth wrth i’r Gwylanod golli o 1-0 yn erbyn Y Bala am yr eildro’r tymor hwn.
Dyw’r timau yma heb gyfarfod ers Mawrth 2024 pan enillodd Pen-y-bont yn gyfforddus o 5-0 gyda pum sgoriwr gwahanol yn taro’r rhwyd ym Mryntirion.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏❌➖✅✅✅
Bae Colwyn: ͏➖✅✅➖❌
Y Barri (5ed) v Cei Connah (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n fuddugoliaeth felys i’r Barri nos Fawrth wrth i dîm Steve Jenkins rwydo’n hwyr i sicrhau’r triphwynt ar Ddôl y Bont (Hwl 2-3 Barr).
Mae’r Barri wedi codi i’r 5ed safle, a’r nod i’r Dreigiau bydd aros yn yr hanner uchaf tan yr hollt er mwyn hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.
Ar ôl colli’n erbyn Caernarfon, mae Cei Connah yn dechrau’r penwythnos yn yr hanner isaf ar wahaniaeth goliau, ond mae gan dîm John Disney gêm wrth gefn.
Enillodd Y Barri dair o’u pedair gêm yn erbyn Cei Connah y tymor diwethaf, ac fe sgoriodd blaenwr y Dreigiau, Ieuan Owen deirgwaith yn erbyn y Nomadiaid.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖❌✅➖✅
Cei Connah: ✅❌➖✅❌
Y Fflint (9fed) v Llansawel (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Bydd hi’n frwydr gyffrous ar Gae y Castell gan mae dim ond pwynt sy’n gwahanu Y Fflint a Llansawel, dau glwb orffennodd yn y Chwech Isaf y tymor diwethaf, ond sy’n anelu yn uwch eleni.
Roedd hi’n noson i’w anghofio i Lansawel nos Fawrth wrth i’r Cochion ddod y tîm cyntaf i golli’n erbyn Llanelli yn y gynghrair y tymor hwn.
Mae gan Y Fflint record rhagorol yn erbyn Llansawel gan i’r timau gyfarfod am y tro cynta’r tymor diwethaf ac fe lwyddodd y Sidanwyr i ennill tair o’r bedair gornest, gyda’r gêm arall yn gorffen yn gyfartal, ac felly dyw Llansawel erioed wedi curo’r Fflint.
Sgoriodd amddiffynnwr a capten Y Fflint, Harry Owen bedair gôl yn erbyn Llansawel y tymor diwethaf, yn cynnwys hatric ar Gae y Castell ym mis Chwefror.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅✅❌➖❌
Llansawel: ͏❌➖❌➖❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.