Kneecap: Taflu achos terfysgaeth allan o'r llys
Mae achos cyfreithiol yn erbyn aelod o’r band Kneecap o Belfast wedi ei daflu allan o’r llys yn dilyn nam technegol yn y ffordd a gafodd yr achos ei ddwyn yn ei erbyn.
Cafodd Liam Og O hAnnaidh, 27 oed, sy'n perfformio dan yr enw Mo Chara, ei gyhuddo o ddatgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.
Daeth y cyhuddiad wedi ymchwiliad gan yr heddlu i gig y band yn yr O2 Forum yng ngogledd Llundain pan afaelodd Mr Og O hAnnaidh ym maner y mudiad.
Fis Awst fe wnaeth tîm cyfreithiol Mr O hAnnaidh dweud yn Llys Ynadon Westminster y dylai’r achos gael ei daflu allan o’r llys ar sail “gwall technegol” yn gysylltiedig â’r modd a gafodd yr achos ei ddwyn yn ei erbyn.
Yn Llys y Goron Woolwich ddydd Gwener, fe ddywedodd y prif ynad Paul Goldspring ei fod yn cytuno gyda’i gyfreithwyr.
Dywedodd nad oed y Twrnai Cyffredinol wedi rhoi caniatâd i’r achos gael ei ddwyn yn ei erbyn pan roddodd yr heddlu wybod i Mr O hAnnaidh y byddai’n wynebu cyhuddiad o derfysgaeth ar 21 Mai.
Nid oedd yr achos wedi ei gychwyn yn y ffordd gywir gan nad oedd caniatâd angenrheidiol gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP) a'r Twrnai Cyffredinol (AG) o fewn y terfyn amser statudol o chwe mis, meddai.
“O ganlyniad, mae’r cyhuddiad yn anghyfreithlon ac yn ddi-rym ac nid oes gan y llys hwn awdurdodaeth i roi’r cyhuddiad ar brawf.”
Roedd yr erlynydd Michael Bisgrove eisoes wedi dweud wrth siarad yn y llys nad oedd angen caniatâd gan y DPP a’r AG tan ymddangosiad cyntaf y diffynnydd yn y llys.
Dywedodd hefyd nad oedd angen gofyn am ganiatâd i ddwyn achos o gyhuddiad troseddol.
Fe ddywedodd y prif ynad nad oedd yn cytuno gydag ef gan ddweud wrth y llys y byddai hynny’n mynd yn erbyn “rhesymeg”.
Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O’Neill, wedi croesawu’r penderfyniad.
“Roedd y cyhuddiadau hyn yn rhan o ymgais i dawelu'r rhai sy'n sefyll i fyny ac yn siarad yn erbyn hil-laddiad Israel yn Gaza,” meddai.
Llun: Aaron Chown/PA Wire