Ansicrwydd dros ddyfodol datblygiad Porth Eirias ym Mae Colwyn
Mae “angen ystyried pob opsiwn” dros ddyfodol datblygiad Porth Eirias ym Mae Colwyn – gan gynnwys ei gau.
Dyna’r awgrym gan un cynghorydd wrth i gyfrifon Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy ddatgelu eu bod wedi gwario £210,000 yn ystod 2024/25 i gynnal yr adeilad, sydd yn £84,000 yn fwy na’r hyn oedd wedi'i gyllidebu.
Yn ôl y cyngor, mae hynny oherwydd diffyg incwm rhent o’r adeilad, gydag un uned fasnachol, Bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias yn gweithredu o’r safle ar hyn o bryd.
Mae dwy uned arall yn disgwyl cymeradwyaeth gan Ystâd y Goron, tra bod dwy uned arall yn parhau’n wag ac yn ceisio denu tenantiaid.
Pe bai pob uned yn cael ei llenwi, fe fyddai costau’r cyngor i gynnal yr adeilad dal yn cyrraedd £160,000, sydd yn uwch na’r gyllideb o £126,000. Mae disgwyl y gallai ffioedd parcio sydd newydd eu gosod ar y safle godi £10,000 ychwanegol.
Dywedodd cynghorwyr fod problemau wedi bod wrth geisio “cael gafael ar Ystâd y Goron”, sydd yn gosod y les ar gyfer y tir mae’r datblygiad wedi’i leoli arno.
Cafodd y datblygiad ei adeiladau yn 2013 fel rhan o gynllun atal llifogydd, a dros y 12 mlynedd diwethaf mae’r cyngor wedi cael trafferthion gyda denu tenantiaid oherwydd cyfyngiadau’r les, ac isadeiledd cyfyngedig.
Gyda’r adeilad ar les gydag Ystâd y Goron tan 2060, nid yw gwerthu’r adeilad yn opsiwn.
'Camgymeriad'
Dywedodd y cynghorydd Louise Emery o blaid Reform UK, nad oedd y prosiect erioed yn hyfyw yn fasnachol.
“Dw i ddim yn credu bod yr achos busnes erioed wedi llwyddo i fod yn addas ar gyfer Porth Eirias oherwydd cyfluniad yr adeilad, ac oherwydd roedd Bryn (Williams) yn rhan o’r prosiect, ac mi oedd o’n gynnig cyffrous ar y pryd - rwy’n deall,” meddai.
“Ond nid yw’r unedau eraill wedi gallu gweithio; efallai nad oedd y ganolfan chwaraeon dŵr yn cael ei rhedeg mor effeithlon ag y gallai fod wedi bod.
“Felly rwy’n credu bod yn rhaid bod rhywfaint o atebolrwydd gyda’r gwleidyddion ar y pryd, a oedd yn gweithio gydag argymhellion y swyddogion - oherwydd nid ydym am wneud y camgymeriad hwn eto, oherwydd mae hyn yn tynnu cymaint ar gyllideb Sarah Ecob (pennaeth economi a diwylliant), ac nid wyf yn gweld sut y bydd byth yn niwtral o ran cost, heb sôn am wneud elw.”
Fe wnaeth y Cynghorydd Simon Croft o'r Democratiaid Rhyddfrydol ddisgrifio’r swm a dalwyd yn “syfrdanol” ac ychwanegodd: “Mae’n drueni mewn gwirionedd, ond mae’n rhaid i ni edrych ar yr holl opsiynau o ystyried faint rydyn ni’n ei wario ar y lle yma.”
Dywedodd ei fod eisiau gweld dadansoddiad o’r costau, gan ychwanegu: “Mae angen i ni ddod â’r holl opsiynau i’r bwrdd, gan gynnwys cau, a beth fyddai goblygiadau hynny.”
Mae disgwyl adroddiad mwy manwl am ddyfodol y canolfan o fewn chwe mis.
Llun: Google Maps