'Angenrheidiol' i bobl fod â dogfen ID digidol newydd er mwyn gweithio yn y DU
Fe fydd rhaid i holl ddinasyddion Prydain gael dogfen ID digidol er mwyn profi bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU.
Daw fel rhan o gynlluniau newydd gan Lywodraeth y DU, hynny fel rhan o’r ymdrechion i fynd i’r afael â nifer y bobl sy’n “gweithio’n anghyfreithlon” yng ngwledydd y DU.
Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd y cynllun yn creu “cyfleoedd enfawr” gan sicrhau y bydd yn gwneud hi’n anoddach i bobl gweithio os nad oes ganddyn nhw’r hawl cyfreithiol i’w wneud.
Fe fyddai hefyd yn “gwneud ein ffiniau’n fwy diogel,” meddai.
“Ac fe fydd yn hefyd creu manteision di-ri i ddinasyddion cyffredin."
Dywedodd bod hynny’n cynnwys y gallu i “brofi eich hunaniaeth a chael mynediad at wasanaethau allweddol yn gyflym” heb orfod “chwilio am hen filiau.”
Dywedodd y llywodraeth y bydd y cynlluniau yn dod i rym i ddinasyddion y DU a phreswylwyr cyfreithiol yn y wlad erbyn diwedd cyfnod y Senedd bresennol.
'Erydu rhyddid sifil'
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu’r cynllun, gydag arweinydd y Ceidwadwyr, Kemy Badenoch yn ei ddisgrifio fel "tric na fydd yn gwneud dim i atal y cychod”.
Dywedodd Reform UK ei fod yn gynllwyn i "dwyllo" pleidleiswyr i feddwl bod "rhywbeth yn cael ei wneud am fewnfudo"
Dywedodd Liz Saville-Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: “Ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi unrhyw system adnabod ddigidol sy’n peryglu cau pobl allan o wasanaethau neu erydu rhyddid sifil.
"Mae gan Gymru filoedd o bobl o hyd sydd wedi’u heithrio'n ddigidol, ac ni ddylai neb byth gael ei gloi allan o wasanaethau hanfodol dim ond oherwydd nad oes ganddynt ffôn clyfar na mynediad i’r rhyngrwyd."
Mae Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy, wedi dweud y bydd yn rhaid i holl ddinasyddion y DU gael ID digidol, ond y bydd yn cael dewis a ydyn nhw am ei ddefnyddio.
Does dim disgwyl i bobl fod â chopi caled o’r ID, gan y bydd yn cael ei gadw ar ffonau symudol pobl.
Fe fydd y cardiau yn rhad ac am ddim ac fe fyddan nhw’n cael eu hariannu dan gynlluniau gwariant presennol.
Ni fyddai’r cynlluniau’n cael effaith ar y cosbau y mae busnesau’n eu hwynebu am fethu â gwirio a oes gan weithwyr hawl i weithio, meddai Ms Nandy.
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer siarad mewn Uwchgynhadledd Gweithredu Cynnydd Byd-eang yn Llundain yn ddiweddarach bore dydd Gwener.