Amber Davies i gystadlu yn Strictly Come Dancing
Fe fydd y Gymraes Amber Davies yn cystadlu yn Strictly Come Dancing, gan gymryd lle Dani Dyer-Bowen, yn y gystadleuaeth.
Fe fydd yr actores a'r gantores 28 oed yn ymuno yn y gyfres wedi i Dani Dyer-Bowen orfod gadael y gystadleuaeth yn sgil anaf.
Fe fydd Amber Davies yn cael ei phartneru gyda Nikita Kuzmin.
"Dyma ydy'r 24 awr mwyaf gwyllt o fy mywyd," meddai.
"Dwi wedi gwylio Strictly gyda fy nheulu ers o'n i'n fach, ac mae bod yn rhan o'r sioe wir yn gwireddu breuddwyd.
"Dwi'n mynd i roi 100%, a dwi'n dymuno'r gorau i Dani wrth iddi wella.
"Dwi'n gobeithio y bydd hi'n falch ohonof."
Ers iddi ennill y gyfres Love Island, mae Amber wedi llwyddo i gael gyrfa yn y byd sioe gerdd yn y West End, gan berfformio fel Jordan Baker yn The Great Gatsby, Vivian Ward yn Pretty Woman, a Lorraine Baines yn sioe gerdd Back To The Future.
Fe fydd hi hefyd yn chwarae rhan Elle Woods yn y cynhyrchiad newydd o sioe gerdd Legally Blonde.