Ymosodiad seiber: Ystyried cymorth i gyflenwyr Jaguar Land Rover

Jaguar Land Rover

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried rhoi cefnogaeth ariannol i gwmnïau sy’n cyflenwi Jaguar Land Rover ar ôl ymosodiad seiber.

Mae’n bosib na fydd modd i Jaguar Land Rover gynhyrchu’r ceir tan fis Hydref neu Dachwedd ar ôl yr ymosodiad a ddaeth i’r amlwg ddiwedd mis Awst.

Mae degau o filoedd o swyddi mewn cwmnïau sy’n darparu darnau ar gyfer ceir Jaguar Land Rover.

Maen nhw’n cynnwys cwmni brêcs ZF Automotive UK Ltd ym Mhont-y-pŵl,  a dderbyniodd £423,000 gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin.

Defnyddiwyd yr arian hwnnw i ddiweddaru eu llinell gynhyrchu ar gyfer cytundeb â Jaguar Land Rover.

Un syniad sydd dan ystyriaeth gan Lywodraeth y DU yw prynu cydrannau y mae'r cyflenwyr yn eu cynhyrchu nes bod llinellau cynhyrchu JLR ar waith eto.

Fel arfer, byddai JLR yn disgwyl adeiladu mwy na 1,000 o geir y dydd mewn tair ffatri yn Solihull a Wolverhampton yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, a Halewood ar Lannau Merswy.

Credir bod yr ymosodiad seiber yn costio o leiaf £50m yr wythnos i'r cwmni.

Daw wrth i’r Co-operative Group ddweud eu bod nhw wedi dioddef ergyd o tua £80 miliwn i’w enillion yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn o ganlyniad i ymosodiad seiber.

Dywedodd Debbie White, cadeirydd y Co-op: “Daeth hanner cyntaf 2025 â heriau sylweddol yn ei sgil, yn fwyaf amlwg yr ymosodiad seiber maleisus.

“Diolch i ymateb gwych ein 53,000 o gydweithwyr fe wnaethon ni lwyddo i gynnal gwasanaethau hanfodol i’n haelodau a’u cymunedau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.