Caniatâd i brosiect 'arloesol' i ddal carbon yn y gogledd
Mae disgwyl i'r gwaith gychwyn eleni ar brosiect "arloesol" yn y gogledd i ddal carbon sy'n cael ei greu drwy gynhyrchu sment a llosgi gwastraff.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd y prosiect yn Sir y Fflint, ynghyd ag un arall yn Sir Gaer, yn creu 500 o swyddi yn y sector ynni glân dros y tair blynedd nesaf.
Dyma'r ddau brosiect cyntaf i ymuno â rhwydwaith trafnidiaeth a storio'r cwmni technoleg ynni Eni oddi ar arfordir Lerpwl a gogledd Cymru.
Bydd y rhwydwaith yma yn storio allyriadau carbon sy'n cael eu dal o amrywiaeth o ddiwydiannau o dan y môr.
Mae'n rhan o glwstwr ehangach dal carbon HyNet a gafodd y golau gwyrdd gan y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, fis Ebrill.
Yn ôl arbeingwyr hinsawdd, mae technoleg dal carbon yn allweddol i'r DU gyrraedd net sero erbyn 2025.
Pam bod angen dal carbon?
Mae dal carbon a’i storio dan y ddaear neu’r môr yn allweddol i leihau allyriadau o brosesau diwydiannol, cynhyrchu hydrogen a gorsafoedd pŵer nwy.
Mae'r Llywodraeth wedi addo bron £22 biliwn dros 25 mlynedd i ddatblygu clystyrau dal carbon yng Nglannau Mersi a Glannau Tees.
Bydd y prosiectau yn creu miloedd o swyddi, denu buddsoddiad a helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau hinsawdd, meddai'r llywodraeth.
Maen nhw'n cynnwys cyfleuster sment cyntaf y DU sy'n galluogi dal carbon yn Padeswood, Sir y Fflint, gan Heidelberg Materials UK.
Dywedodd yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net fod y broses o gynhyrchu sment a gwastraff yn ynni yn cynhyrchu llawer iawn o garbon, ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw ffordd i dorri allyriadau heb dechnoleg dal carbon.
Mae disgwyl i'r ddau brosiect gael gwared ar 1.2 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn, pan fydd y seilwaith ar waith.
Dywedodd y Gweinidog Ynni ,Michael Shanks: "Mae ein cenhadaeth ynni glân yn golygu swyddi da, twf rhanbarthol, a buddsoddiad i gymunedau lleol.
"Mae'r prosiectau arloesol hyn yn arddangos gweithlu Gogledd Cymru a'r Gogledd Orllewin ar y llwyfan byd-eang – gan arwain y gad yn niwydiannau glân y dyfodol a phweru ail-ddiwydiannu Prydain."
Llun: Y Gweinidog Ynni, Michael Shanks; Anna McMorrin, Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru; a Simon Willis, prif weithredwr Heidelberg Materials UK.