Rhybudd am alwadau ffôn gan bobl ffug ar ôl i gwmni o Sir Benfro dderbyn dirwy o £300,000
Mae’r cyhoedd wedi cael rhybudd i fod yn wyliadwrus am alwadau ffôn gan bobl ffug wedi i gwmni o Arberth yn Sir Benfro dderbyn dirwy o £300,000.
Dywedodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) bod datblygiadau technolegol yn ei gwneud hi’n anoddach i’r cyhoedd wybod pryd oedden nhw’n siarad â pherson go iawn.
Fe wnaeth cwmni Home Improvement Marketing Ltd o Sir Benfro dderbyn dirwy o £300,000 a hysbysiad gorfodi yn eu gorchymyn i roi’r gorau i wneud galwadau 'robocall' o’r fath.
Roedd y cwmni wedi gwneud 2.4 miliwn o alwadau awtomataidd rhwng 31 Mai 2023 a 31 Awst 2023 gan honni eu bod yn cynnig paneli solar gan “Energy Hub” a “thîm arbed ynni”.
Defnyddiodd y cwmni feddalwedd avatar a oedd yn rhoi’r argraff i bobl oedd yn ateb y ffôn eu bod yn siarad â pherson go iawn.
Mewn gwirionedd roedd pobl yn gwrando ar linellau wedi’u sgriptio gan actorion a ddewiswyd gan asiantau galwadau dramor.
Fe arweiniodd y galwadau at 274 o gwynion yn erbyn y cwmni.
'Gofidus'
Dywedodd Andy Curry, pennaeth ymchwiliadau yn yr ICO, fod technoleg galwadau awtomatig yn ei gwneud hi'n anoddach i'r cyhoedd wybod pa alwadau oedd yn awtomataidd a rhoi gwybod i’r ICO.
Dywedodd: “Rydym wedi clywed adroddiadau brawychus am sut mae cwmnïau diegwyddor yn defnyddio technoleg ‘robocalls’ i dwyllo pobl oedrannus a phobl agored i niwed.
“Rydym yn deall pa mor ofidus y gall y galwadau hyn fod a byddwn yn gweithio ar ran y cyhoedd i ddal y rhai sy'n gyfrifol.”
Fe gafodd ail gwmni, Green Spark Energy Ltd (GSE), o Durham yng ngogledd Lloegr, ddirwy o £250,000 am wneud 9.5 miliwn o alwadau o’r fath.
Fe dderbyniodd yr ICO 497 o gwynion am y cwmni, gan gynnwys gan bobl oedrannus a chleifion canser.
Mae’r ICO wedi cyhoeddi rhestr o awgrymiadau i helpu’r cyhoedd i benderfynu a ydynt wedi derbyn galwad awtomatig.
Gall y rhain gynnwys seibiannau bach cyn ymatebion, oedi amlwg rhwng yr hyn a ddywedwch a’r ymateb, wrth i’r asiant ddewis y clip nesaf wedi’i recordio ymlaen llaw, ac atebion ailadroddus i gwestiynau.