
GIG Cymru: Dim tystiolaeth bod cysylltiad rhwng paracetamol ag awtistiaeth
Does "dim tystiolaeth gadarn" bod cymryd paracetamol yn ystod beichiogrwydd yn achosi awtistiaeth mewn plant, yn ôl sefydliad sy'n rhoi cyngor arbenigol ar feddyginiaeth i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Daw'r cyngor gan Wasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru ar ôl i Donald Trump honni bod yna gysylltiad sydd heb ei brofi rhwng parcetamol ac awtistiaeth mewn plant.
Dywedodd Arlywydd America bod y cyffur "ddim yn dda" ac y dylai menywod beichiog gymryd y cyffur os oes ganddynt wres eithafol y unig.
Mae yna rhai astudiaethau sydd wedi dangos cysylltiad rhwng mamau oedd yn cymryd paracetamol tra'n feichiog ag awtistiaeth mewn plant.
Ond dyw'r awduron ddim yn gallu profi bod y cysylltiad o achos y cyffur ei hun yn hytrach na ffactorau eraill fel genetig, ffordd o fyw ac yr amgylchedd.
Mae Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru bellach wedi cyhoeddi datganiad yn annog menywod beichiog i ddilyn canllawiau'r DU.
"Hoffai'r gwasanaeth ymuno â sefydliadau iechyd eraill yn y DU i sicrhau'r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad oes tystiolaeth gadarn bod cymryd paracetamol yn ystod beichiogrwydd yn achosi awtistiaeth mewn plant," meddai.
"Mae paracetamol, sydd hefyd yn cael ei alw'n asetaminophen neu'r brand Tylenol yn UDA, yn cael ei argymell fel y cyffur lleddfu poen dewis cyntaf i bobl sy'n feichiog, a hynny ar y dos isaf ac am y cyfnod byrraf. Mae modd ei ddefnyddio hefyd i drin twymyn.
"Dylai pobl sy'n feichiog ddilyn canllawiau presennol y Gwasanaeth Iechyd a siarad â'u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os oes ganddynt gwestiynau am unrhyw feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd."
'Peri risgiau'
Fe aeth y sefydliad ymlaen i ddweud bod peidio â thrin poen a thwymyn yn ystod beichiogrwydd yn gallu "peri risiau".
"Gall poen a thwymyn heb eu trin beri risgiau i'r babi yn y groth, felly mae'n bwysig bod cleifion yn parhau i reoli'r symptomau gyda'r driniaeth sy'n cael ei argymell," meddai.
"Ni ddylai pobl feichiog newid i ddewisiadau amgen fel ibuprofen, gan nad yw cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAIDs) yn cael eu hargymell yn gyffredinol yn ystod beichiogrwydd.
"Mae'r MHRA yn adolygu diogelwch paracetamol yn rheolaidd, gan gynnwys yn ystod beichiogrwydd, er mwyn sicrhau bod y manteision i'r claf a'r babi yn y groth yn gorbwyso unrhyw risgiau.
"Nid yw astudiaethau diweddar sy'n bodoli eisoes yn dangos cysylltiad achosol rhwng defnyddio paracetamol yn ystod beichiogrwydd ac awtistiaeth.
"Mae yna lawer o ffactorau posibl sy'n cyfrannu at ddatblygiad awtistiaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i afiechydon cydredol ac etifeddiaeth deuluol."

Mae Nigel Farage wedi wynebu beirniadaeth drawsbleidiol ar ôl iddo beidio ag wfftio honiad yr Arlywydd Trump.
Wrth gael ei holi gan y cyflwynydd Nick Ferrari ar orsaf radio LBC os oedd Arlywydd America yn gywir i wneud y cysylltiad, dywedodd Mr Farage: "Does gen i ddim syniad... fe wnaethon nhw ddweud wrthon ni fod thalidomide yn gyffur saff iawn a doedd o ddim. Pwy a ŵyr, Nick. Dwi ddim yn gwybod."
Dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, y bydd sylwadau arweinydd Reform UK yn "creu ofn a phryder".
"Bydd yn creu ofn a phryder ymhlith rhieni a bydd menywod beichiog yn dioddef poen diangen trwy ei gredu," meddai mewn datganiad ar X.
"Ond nid yw Farage yn poeni am hynny," ychwanegodd, gan ddisgrifio Reform UK fel plaid "sydd ddim o ddifrif yn y llywodraeth".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Wes Streeting, fod y sylwadau’n "beryglus ac yn anghyfrifol".
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd fod Mr Farage yn "werthwr olew neidr a’i bod hi’n bryd i bobl roi’r gorau i'w brynu".
Disgrifiodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn, Llinos Medi, sylwadau Mr Farage fel rhai "cywilyddus", gan ddweud y byddent yn "dim ond ychwanegu straen i fenywod beichiog, sydd eisoes dan ddigon o bwysau heb godi ofn yn ddi-hid".
Ychwanegodd: "Rhaid i ni yng Nghymru wrthod y wleidyddiaeth beryglus hon sy’n ddi-ffaith."
Dywedodd llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Helen Morgan: "Mae Nigel Farage eisiau gorfodi agenda gwrth-wyddonol beryglus Trump yn y DU.
"Mae gwerthu’r math yma o nonsens yn anghyfrifol ac yn anghywir. Mae'n ymddangos y byddai'n well gan Farage weld menywod beichiog yn dioddef mewn poen na sefyll yn erbyn ei eilun Donald Trump."