
Ceredigion: Sw a gollodd lyncs yn gobeithio adennill trwydded
Ceredigion: Sw a gollodd lyncs yn gobeithio adennill trwydded
Ydych chi’n cofio hanes y lyncs a wnaeth ddianc o sw yng Ngheredigion?
Ym mis Hydref 2017 fe wnaeth lyncs o'r enw Lilleth ddianc o Wild Animal Kingdom yn Borth ger Aberystwyth.
Roedd y lyncs ar ffo am rai wythnosau cyn iddo gael ei "dinistrio mewn modd dyngarol" gan Gyngor Ceredigion er mwyn diogelu’r cyhoedd.
Roedd y perchnogion, Tracy a Dean Tweedy, eisoes wedi derbyn dau rybudd bod modd i'r lyncs ddianc gan bod y coed yn ei uned yn rhy uchel.
Roedd y ddau wedi prynu'r sw am £625,000 yn 2016 ar ôl symud i'r ardal o Gaint yn ne-ddwyrain Lloegr.
Fe gafodd y sw ei gynnwys ar raglen BBC, Saving Britain's Worst Zoo yn 2019, ac fe aeth i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2021.

Ond roedd Mr a Mrs Tweedy yn benderfynol o barhau i weithredu, ac mae’r sw bellach wedi ei droi'n warchodfa anifeiliaid.
Dywedodd Tracy Tweedy wrth Newyddion S4C ei bod hi bellach yn gobeithio adennill trwydded i weithredu fel sw sy’n cadw anifeiliaid gwyllt.
"Beth aeth o'i le? Wel... i ddechrau yn amlwg roedd y lyncs wedi dianc, sef y prif beth a aeth o'i le," meddai.
"Roedden ni’n benderfynol ein bod yn gallu dal y lyncs. Roedd y cyngor yn benderfynol bod angen iddi gael ei saethu.
"Wnaethon ni ddim llwyddo i oresgyn y ddadl honno gyda'r cyngor."

'Dechrau o'r newydd'
Mae sawl anifail gwahanol yn y warchodfa erbyn hyn, sydd ychydig yn llai egsotig na’r lyncs - gan gynnwys geifr, crwbanod ac ymlusgiaid (reptiles).
Mae'r safle ar agor i'r cyhoedd i ymweld â'r anifeiliaid am bris o £9 i oedolion a £6.50 i blant.
Ar ôl methu â chais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt yn 2021 roedd Tracy Tweedy wedi gobeithio ei hadennill erbyn hyn.
Mae'n parhau i ychwanegu at y safle yn y gobaith o allu gweithredu fel sw ryw ddydd eto, meddai.
“Fyddwn ni byth yn cael cadw’r anifeiliaid mwyaf gwyllt ond rydyn ni yn hytrach ynedrych ar droi’r safle i barc anifeiliaid fferm,” meddai.
“Ar ôl edrych nôl, rydyn ni’n deall nad oedden ni o bosib yn barod ar gyfer ‘gwleidyddiaeth’ cadw sw.
“Dylen ni fod wedi dymchwel y lle a dechrau o’r newydd ond dyna beth rydyn ni’n neud nawr.
"Rydyn ni’n bwriadu adennill ein trwydded i redeg sw, ond i wneud hynny mae llawer o waith i'w wneud.
"Yr hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud yw gweithio tuag at gadwraeth anifeiliaid Prydeinig yn fwy nag unrhyw beth.
"Rydyn ni’n dymchwel ac yn ailadeiladu er mwyn sicrhau bod pethau’n cael eu hadeiladu’n gywir a’u bod nhw'n cael eu hadeiladu'n benodol ar gyfer yr anifeiliaid mewn golwg.”