Andy Burnham: ASau yn fy annog i herio Keir Starmer
Mae Andy Burnham wedi dweud bod ASau yn ei annog i herio'r Prif Weinidog Keir Starmer am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Wrth siarad â’r Daily Telegraph cyn cynhadledd y Blaid Lafur dros y penwythnos, dywedodd Maer Manceinion Fwyaf nad oedd yn “cynllwynio” a bod yr arweinyddiaeth “yn fater ar gyfer pobl eraill yn San Steffan”.
Ond fe wnaeth y cyn aelod o gabinet Llywodraeth y DU ddweud bod angen “newid llwyr” ar y Blaid Lafur er mwyn wynebu “her i’w fodolaeth” gan Reform UK.
“Mae pobl wedi cysylltu â mi drwy gydol yr haf - do,” meddai wrth iddo gael ei holi a oes eraill wedi ei annog i sefyll.
“Dydw i ddim am ddweud wrthych chi nad yw hynny wedi digwydd, ond fel rwy’n ei ddweud, mae’n fwy o benderfyniad i’r bobl hynny nag ydi o i mi.
“Rydw i wedi sefyll ddwywaith i fod yn arweinydd y Blaid Lafur. Ac rwy’n credu bod hynny’n dweud rhywbeth, tydi?”
Daw ei sylwadau wrth i arolwg YouGov awgrymu mai dim ond 21% o oedolion Prydain sydd â barn ffafriol am y Prif Weinidog Keir Starmer, tra bod gan 71% farn anffafriol amdano.
Dywedodd Andy Burnham mai “sosialaeth uchelgeisiol” oedd ei wleidyddiaeth a bod angen mwy o reolaeth gyhoeddus dros dai, ynni, dŵr a rheilffyrdd, a “siarad am uchelgais y dosbarth gweithiol”.
Ychwanegodd fod angen codi trethi cyngor yn Llundain a de ddwyrain Lloegr a hefyd y dylid sefydlu cyfradd treth incwm uchaf o 50c ar y bunt.
Wrth gael ei holi am sylwadau Andy Burnham fore Iau, dywedodd Steve Reed, Ysgrifennydd Tai Llywodraeth y DU, fod Starmer wedi arfer â phobl yn “ceisio ei ergydio o bell”.
Wrth siarad â Sky News, ychwanegodd Steve Reed fod Burnham yn gwneud gwaith da fel Maer Manceinion Fwyaf a’i fod â hawl i’w farn.