Carharu dyn o Bowys am bron i ddegawd o droseddau rhyw yn erbyn plentyn

Kerry Price

Mae dyn 53 oed o Bowys wedi cael ei garcharu ar ôl bron i ddegawd o gam-drin rhywiol yn erbyn plentyn.

Fe wnaeth Kerry Price, o Ystradgynlais, gam-drin y dioddefwr dros y rhan fwyaf o'i phlentyndod, o tua phump oed hyd nes yr oedd hi yn ei harddegau.

Cafwyd Price yn euog o bum cyhuddiad o gam-drin merch dan 13 oed trwy gyffwrdd, dau gyhuddiad o achosi i ferch dan 13 oed gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw, dau gyhuddiad o dynnu llun/ffug-lun anweddus o blentyn, ac un cyhuddiad yr un o dynnu llun anweddus o blentyn, voyeuriaeth, a recordio delwedd o dan ddillad i arsylwi ar un arall heb ganiatâd.

Roedd wedi pledio'n ddieuog yn flaenorol i'r holl droseddau hyn. Mae wedi cael dedfryd estynedig o 14 mlynedd yn y carchar.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Stuart Sandy: “Ni ddangosodd Kerry Price unrhyw edifeirwch o gwbl am ei weithredoedd, fel y mae wedi dangos trwy bledio’n ddieuog.

"Roedd yn credu y gallai ddianc o’r hyn a wnaeth, ond profwyd ei fod yn hollol anghywir.

“Roedd wedi cam-drin ei ddioddefwr am gyfnod o bron i ddegawd, gan ddechrau pan oeddent yn blentyn ifanc. 

"Mae’r hyn y mae wedi’i wneud yn ffiaidd a bydd wedi bod yn brofiad trawmatig ofnadwy i’r dioddefwr a’i theulu. 

"Dangosodd y dioddefwr a’i theulu gryfder mawr trwy roi tystiolaeth yn yr achos, o’i gymharu â’r diffynnydd, y dywedodd y barnwr fod ei amddiffyniad ‘ar adegau’n ffarsaidd’.

“Y carchar yw’r lle iawn iddo, ac mae’n wych ei weld yn cael dedfryd estynedig.”

Ychwanegodd Heddlu De Cymru: “Rydym yn gobeithio y bydd achosion fel yr un hon yn rhoi sicrwydd y bydd dioddefwyr yn cael eu gwrando, eu trin ag urddas a pharch, a’u cefnogi drwy gydol y broses gyfreithiol.

“Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych chi eto'n barod i roi gwybod i'r heddlu, peidiwch â dioddef yn dawel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.