Bangor: Merch 17 oed ac eraill wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad

Treborth Rd Bangor

Mae sawl person, gan gynnwys merch 17 oed, wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ym Mangor nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad, rhwng VW Golf gwyn a Vauxhall Corsa du, ar Ffordd Treborth ar yr A487 am 20:31.

Fe gafodd merch 17 oed ei chludo i Ysbyty Gwynedd, ond bellach mae wedi ei chludo gan ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.

Mae pobl eraill oedd yn teithio yn yr un car wedi dioddef anafiadau difrifol ac yn derbyn triniaeth feddygol.

Cafodd gyrrwr y VW Golf, dyn 57 oed, ei arestio ar amheuaeth o yrru heb fod mewn cyflwr addas oherwydd diod neu gyffuriau ac achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.

Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gyda man anafiadau.

Mae’r Rhingyll Duncan Logan o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yn apelio am dystion.

“Mae ein hymchwiliad i sefydlu achos y gwrthdrawiad ar y gweill," meddai.

“Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad â ni eto i gamu ymlaen.

"Rwyf hefyd yn apelio i unrhyw un a allai fod â lluniau camera dashfwrdd yn dangos sut roedd y VW Golf gwyn yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r Gogledd drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 25000787692.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.