‘Penderfyniad anodd’: Addo cyhoeddi adroddiad Neil Foden cyn gynted â phosib ar ôl canslo

Neil Foden

Bydd adroddiad hirddisgwyliedig ar ba wersi sydd i’w dysgu yn sgil troseddau'r pedoffeil a chyn brifathro Neil Foden yn cael ei gyhoeddi “cyn gynted ag y bydd yn bosib” meddai’r awduron.

Brynhawn ddydd Mawrth dywedodd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi canslo cyhoeddi’r adroddiad, lai na 24 awr cyn yr oedd disgwyl datgelu’r canfyddiadau.

Mewn datganiad pellach dydd Mercher dywedodd y bwrdd bod yr oedi wedi bod yn “benderfyniad anodd” ond wedi ei wneud er mwyn “ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth”.

“Rydym yn sylweddoli bod hyn yn siom enfawr i bawb dan sylw, yn enwedig y merched a’r plant dewr hynny sydd wrth wraidd yr adolygiad hwn,” meddai’r bwrdd ddydd Mercher.

“Byddwn yn ymdrechu i ddarparu amserlen ddiwygiedig cyn gynted ag y bydd yn bosibl.

“Mae’r rhai sy’n arwain yr adolygiad yn parhau â’u cyfrifoldebau o ganolbwyntio ar les dioddefwyr yn ystod yr amser anodd hwn, fel sydd wedi bod yn digwydd drwy gydol cyfnod yr adolygiad.”

‘Siomedig’

Cafodd yr adolygiad dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE ei gomisiynu fis Awst y llynedd yn dilyn cael y cyn-brifathro Neil Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Ychydig dros flwyddyn ers comisiynu'r adolygiad, roedd disgwyl i'r adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’, gael ei rannu ddydd Mercher, gyda chynrychiolaeth o Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, Cadeirydd y Panel Adolygu, Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd Neil Foden yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd ymateb i’r penderfyniad i oedi cyhoeddi’r adroddiad gan ddweud eu bod nhw’n "eithriadol o siomedig" ac nad oedd "unrhyw ragrybudd".

Roedden nhw’n “disgwyl am eglurhad pellach gan y Bwrdd Diogelu,” medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.