Heddlu'n ymchwilio i 'farwolaeth annisgwyl' dynes ym Mangor
Mae'r heddlu yn ymchwilio i "farwolaeth annisgwyl" dynes ym Mangor yng Ngwynedd.
Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Penchwintan yn y ddinas yn dilyn marwolaeth dynes 75 oed yno.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod bellach yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth.
"Mae'r heddlu yn bresennol ar Ffordd Penchwintan ym Mangor yn dilyn adroddiad am farwolaeth annisgwyl dynes 75 oed," meddai.
"Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu, ac rydym yn parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r farwolaeth."