Cyngor Gwynedd yn 'hynod siomedig' ar ôl colli her gyfreithiol dros reoli tai gwyliau

ABERSOCH

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud eu bod nhw'n "hynod siomedig" ar ôl colli her gyfreithiol yn ymwneud â rheolau dros newid defnydd ail dai yn y sir.

Fis Medi 2024, fe wnaeth y Cyngor gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4, er mwyn rheoli nifer y cartrefi yn y sir oedd yn cael eu defnyddio fel ail dai.

Mae’r diwygiadau i ddeddfwriaethau cynllunio, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn golygu bod yn rhaid i berchnogion dderbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd eiddo preswyl i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor-byr neu ddefnydd cymysg penodol.

Cyngor Gwynedd oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r newidiadau.

Ond mae rhai trigolion wedi bod yn feirniadol o’r polisi, ac yn gynharach eleni, fe wnaeth grŵp Pobl Gwynedd yn erbyn Erthygl 4 ennill yr hawl i herio penderfyniad y cyngor mewn Adolygiad Barnwrol.

Cafodd penderfyniad yr adolygiad ei gyhoeddi ddydd Mercher yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd, gyda’r barnwr y dyfarnu o blaid yr ymgeisydd, Enlli Angharad Williams.

Roedd Ms Williams yn honni fod y cyngor wedi “camarwain” aelodau'r cabinet wrth gyflwyno Erthygl 4.

Yn dilyn yr achos, mae’r Cyngor wedi dweud eu bod yn “hynod siomedig gyda’r dyfarniad”, ac am apelio yn ei erbyn.

Image
nia jeffreys
Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys

‘Gwahaniaeth sylweddol’

Roedd yr achos yn ymwneud â sut yr oedd modd defnyddio Erthygl 4.

Yn ôl her gyfreithiol Pobl Gwynedd yn erbyn Erthygl 4, roedd adroddiad a dogfennau gan swyddogion y cyngor wedi “camarwain aelodau’r cabinet yn sylweddol.”

Dywedodd y barnwr nad oedd y dogfennau wedi egluro mai dim ond mewn achosion lle'r oedd newid yn nefnydd tai yn sylweddol oedd rhaid i berchnogion tai geisio am ganiatâd cynllunio dan erthygl 4.

Yn flaenorol, roedd y dogfennau wedi rhoi’r “argraff anghywir" i aelodau’r cabinet "y byddai pob newid yn cael ei reoli”.

Ar sail hynny, roedd yr penderfyniad a wnaed gan y cabinet wedi’i lywio gan wybodaeth “camarweiniol”, yn ôl y dyfarniad.

Dywedodd Mr Eyre: “Roedd angen gwneud aelodau'r Cabinet yn ymwybodol nad oedd y cyfarwyddyd erthygl 4 yn dod â newidiadau defnydd ansylweddol o fewn cwmpas rheolaeth gynllunio. 

“Ni wnaeth y papurau hynny ond yn hytrach, wrth eu darllen, maent yn rhoi'r argraff anghywir y byddai pob newid yn cael ei reoli. 

“Roedd cyfeiriadau dro ar ôl tro yn y dogfennau a'r unig ddarlleniad realistig oedd bod pob newid yn cael ei reoli. 

“Mae hefyd yn werth nodi bod y llythyr a anfonwyd at drigolion yn dweud y byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw newid defnydd."

Image
Craig ab Iago
Y Cynghorydd Craig ab Iago

Ymateb y cyngor

Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor, fe gafodd Cyfarwyddyd Erthygl 4 ei gyflwyno "fel modd o reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau".

Wrth gadarnhau y byddai'n apelio yn erbyn y penderfyniad, fe ddywedodd y cyngor y byddai telerau presennol Erthygl 4 yn parhau mewn grym. 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:  “Fel Cyngor, rydym wedi bod yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas yn eu cymunedau. 

"I wneud hyn, rydym wedi cymryd camau rhagweithiol yn cynnwys cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r nifer sylweddol o gartrefi sy’n cael eu colli i fod yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr. 

“Rydym yn hynod siomedig gyda’r dyfarniad, a byddwn yn bwrw ymlaen i gychwyn proses apêl er amddiffyn ein penderfyniad o gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:  "Holl bwrpas y mesur yma ydi sicrhau tegwch i bobl Gwynedd a sicrhau dyfodol cynaliadwy ein cymunedau gan roi mwy o reolaeth i’r Cyngor a sicrhau bod penderfyniadau’n adlewyrchu anghenion lleol.

“Mae gan bawb hawl i gartref yn eu cymuned, a byddwn rŵan yn bwrw ymlaen i amddiffyn ein hachos yn gadarn trwy’r broses gyfreithiol.”

Image
Janet Finch Saunders
Janet Finch-Saunders AS

‘Polisi hurt’

Mae’r Aelod Senedd, Janet Finch-Saunders, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru wedi dweud disgrifio’r polisi yn “hurt”.

“Rwy’n croesawu’r penderfyniad sy’n profi ymhellach yr hyn rwyf wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd, sef nad yw Plaid Cymru ar lefel leol a chenedlaethol wedi bod yn rhoi sylw gofalus i ganlyniadau posibl eu polisïau," meddai.

“Mae nifer o ffyrdd y gallwn fynd i’r afael â’r prinder tai, megis prynu rhai o’r 1,512 o dai gwag hirdymor yng Ngwynedd yn orfodol, adeiladu mwy o dai i bobl leol, a diwygio’r sector rhent preifat fel bod landlordiaid yn dewis aros yn y farchnad, sy’n hanfodol i gymunedau fel Caernarfon a Bangor.

“Mae cydweithrediad Plaid Cymru a Llafur Cymru ar bolisi tai yn y Senedd wedi bod yn drychineb.

“Mae’n bryd am ddull newydd sydd wir yn darparu cartrefi i Gymru yn hytrach na cheisio gwneud hynny drwy gosbi perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau gyda pholisïau hurt fel Erthygl 4."

'Cefnogi'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i Gyngor Gwynedd ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau sir sy'n awyddus i ddefnyddio pwerau Erthygl 4.

"Mae'r Gymdeithas wedi beirniadu Llywodraeth Cymru sawl gwaith yn y gorffennol am beidio â chynnig digon o gefnogaeth i gynghorau ac awdurdodau cynllunio sydd am ddefnyddio pwerau Erthygl 4 i reoli niferoedd y tai gwyliau yn eu cymunedau," meddai Jeff Smith, Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

"Rydyn ni'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau sydd am gyflwyno Erthygl 4 yn hytrach na chynnig y pwerau a cherdded i ffwrdd, gan adael i gynghorau gyflawni amcanion y Llywodraeth heb fawr ddim cefnogaeth."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn credu y dylai pawb gael mynediad i gartref gweddus, fforddiadwy i’w brynu neu i’w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio’n lleol.

“Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthu i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.