Teyrnged teulu i dad 'cariadus' fu farw wrth weithio mewn adeilad yn Sir Benfro

Ryan Roberts

Mae teulu dyn a fu farw ar ôl cael ei anafu wrth weithio mewn adeilad yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Ryan Roberts, 34, ar ôl iddo gael ei anafu tra’n gweithio mewn eiddo yn ardal Llangwm yn y sir ar 12 Medi.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad ond bu farw'n ddiweddarach o ganlyniad i’w anafiadau, meddai'r heddlu.

Cafodd dyn 60 oed ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol. 

Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio.

Cafodd dyn 64 oed ei gyfweld yn wirfoddol hefyd mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Ei golli am byth'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Roberts ei fod yn "gymeriad cariadus, gofalgar a doniol".

"Mae ei bartner annwyl, Kirsty, a’i ddwy ferch hardd, Jaida a Talia, wedi’u dinistrio'n llwyr gan ei farwolaeth sydyn," meddai ei deulu.

"Roedd Ryan yn ddyn teulu, nid oedd ei gi T-boy byth yn bell o’i ochr, roedd wrth ei fodd â chlwb pêl-droed Lerpwl ac roedd ganddo angerdd gwirioneddol am ei waith. Roedd ganddo dalent bur! 

"Roedd Ryan yn gymeriad cariadus, gofalgar, doniol, gweithgar a theyrngar. Gallai oleuo unrhyw ystafell y byddai’n mynd iddi, byddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac roedd yn cael ei garu gan bawb a gafodd y pleser o’i adnabod.

"Ryan oedd y partner, tad, brawd, ewythr, nai, cefnder a ffrind gorau y gallai unrhyw un byth ddymuno amdano. 

"Mae ei deulu a’i ffrindiau i gyd wedi eu tristau gan ei farwolaeth a byddant yn ei garu a’i golli am byth."

Mae'r heddlu bellach yn gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ymchwilio i amgylchiadau ei farwolaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.