‘Peidiwch cwato fe’: Rhieni a gollodd eu mab i hunanladdiad yn erfyn ar bobl i siarad

‘Peidiwch cwato fe’: Rhieni a gollodd eu mab i hunanladdiad yn erfyn ar bobl i siarad

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae mam a thad o Aberteifi a gollodd eu mab i hunanladdiad wedi erfyn ar bobl ifanc i siarad os oes rywbeth yn eu poeni.

Mae Edwina a Ken Rees wedi siarad yn gyhoeddus am golli eu mab, Steffan am y tro cyntaf.

Fe fuodd Steffan, 26 oed, farw ym mis Tachwedd 2018 yn Chippenham yn Swydd Wilton (Wiltshire) lle’r oedd yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd ei fam Edwina Rees ei bod hi’n dal i deimlo “guilt ofnadw bo' ni ddim yn gwybod a bod ni ddim wedi gallu helpu fe a bod e ddim wedi siarad â ni."

Ychwanegodd ei dad Ken Rees: “Ni’n difaru bod ni ddim wedi ‘neud pethe’, ond wrth gwrs, we’n ni ddim yn gwybod bod problem.

“Os ma' nhw’n cwato fe, s'im neb yn gallu helpu nhw achos bo nhw’n cwato fe - so peidiwch cwato fe.”

Mae rhieni Steffan yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i bobl siarad am iechyd meddwl.

“Dyw dynion ddim yn siarad amdano pethe a 'na beth yw’r broblem,” meddai Ken Rees.

“Falle se fe di siarad â rhywun, bydde fe ‘ma heddi ond ni ddim yn gwybod - o’n ni ddim yn gwybod dim,” yn ôl Edwina.

“Mae’n bwysig i unrhyw un sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad i siarad achos ma nhw’n gweud bod canran eithaf uchel o rywun sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad, ma’n mynd i ddigwydd rhywun arall yn y teulu hefyd.”

Image
Ken, Steffan ac Edwina Rees
Ken, Steffan ac Edwina Rees

‘Angen cefnogaeth’

Ar ôl i Steffan beidio cyrraedd y gwaith y diwrnod y cawson nhw wybod ei fod wedi marw, fe gysylltodd ei reolwr â’i rieni.

Ar y ffordd i Chippenham, fe alwodd Edwina a Ken Rees yr heddlu.

Fe ddywedon nhw wrthyn nhw i alw i orsaf heddlu Caerfyrddin lle daethant i ddeall fod Steffan wedi marw.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Edwina a Ken Rees yr hoffen nhw weld mwy o gefnogaeth i rieni sy’n colli plentyn i hunanladdiad.

“Fuodd yr heddlu yn drugarog iawn ‘da ni ar ôl ‘ny, ma' yn Gaerfyrddin ac yn Chippenham,” meddai Edwina Rees. 

“Ond, we ddim, we ddim support o gwbl rili, we'r meddyg wedi bod yn trial ffeindio support i ni ond dim byd, lle agosaf oedd Gaerdydd.”

Ychwanegodd Ken Rees: “Ni odd yn gorfod trafod â’r crwner, licen ni 'di cal help ac arweiniad.

“O'dd neb yn arwain ni i weud beth i neud a phwy i siarad ‘da.

“Ma lot o bethe i sortio mas - ma fe’n beth caled iawn i neud. Ma ishe rhywun i ddala llaw chi bach.

“Os ma rhywun yn cael ei lladd mewn damwain car neu bod rhywun yn cael eu lladd, mae’r heddlu yn rhoi ‘Family Liaison Officer’ ond gyda hunanladdiad, so nhw’n neud e.”

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys wrth Newyddion S4C bod angen cysylltu â Heddlu Swydd Wilton gan mai dyna lle y buodd farw.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Heddlu Wilton am ymateb.

Image
Ken a Steffan Rees

“We ni’n gorfod mynd i’r orsaf heddlu wedyn ‘ny i bigo lan nodyn o Steffan,” meddai Ken Rees.

“Ond fe wedodd e ar y nodyn, taw ni odd y rhieni gore alle fe di cal,” meddai Edwina Rees. “Ie, ma hwnna yn... saimod.

“Ar y dechrau gathon ni tua deufis ar ôl ‘ny, gathon ni gwnsela gyda Cruse.

“Ma fe fel ton yn bwrw chi ac mae’n dod mas o unman.

“Ambell i ddydd so ni’n teimlo fel codi, ond y'n ni’n gorfod, y'n i'n gorfod cadw fynd.

“Ma’ di newid popeth, y ffordd ni'n meddwl ambyti pethe, y ffordd ni'n byw, wedi newid."

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.