Ymchwiliad i lofruddiaeth: Heddlu’n enwi dyn fu farw yn Rhydyfelin

Liam Woolford

Mae’r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth yn Rhondda Cynon Taf fore Mawrth wedi enwi y dyn fu farw.

Fe fu farw Liam Woolford, 22 oed, o Porth a mae dau ddyn arall yn eu 20au yn parhau yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw i Poets Close yn Rhydyfelin toc wedi 00.40 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiad o ffrwgwd.

Dywedodd y llu fod tri dyn yn eu 20au wedi cael eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau ar ôl y digwyddiad, a bod un wedi marw yn ddiweddarach.

Dywedodd teulu Liam Woolford: “Mae’r teulu’n meddwl am eu mab annwyl Liam yn ystod yr amser anodd hwn ac yn gofyn am breifatrwydd i alaru.”

Mae dyn 30 oed o Rydyfelin wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac ymgais i lofruddio, tra bod dyn 22 oed o Donteg wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Yn ogystal, mae menyw 20 oed o Benygraig wedi cael ei harestio ar amheuaeth o glwyfo gyda bwriad.

Mae’r tri yn parhau yn y ddalfa wrth i’r ymchwiliad barhau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Paul Raikes: “Hoffwn sicrhau’r gymuned ein bod yn gweithio’n gyflym i ymchwilio i’r mater hwn. 

“Efallai y bydd trigolion yn sylwi ar gynnydd yn nifer yr heddlu yn yr ardal, ac mae cordon wedi’i sefydlu ar Ffordd Masefield, yn benodol rhwng cyffyrdd Poets Close a Shakespeare Rise.

“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad hwn neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol i gysylltu â ni gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2500304909. 

“Diolch am eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth yn ystod yr amser hwn.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.