Marwolaethau dau fachgen 'wedi arwain at anhrefn yn erbyn yr heddlu'

S4C

Mae llys wedi clywed fod marwolaethau dau fachgen yn ardal Trelái o Gaerdydd yn 2023 wedi arwain at anhrefn yn erbyn yr heddlu. 

Roedd anhrefn ar strydoedd Trelái ar ddydd Llun, 22 Mai 2023 yn dilyn marwolaethau dau fachgen ifanc, Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, mewn gwrthdrawiad.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod sibrydion wedi dechrau lledaenu am achos y gwrthdrawiad, a arweiniodd at dorf yn casglu ar strydoedd Trelái. 

Wrth i densiynau gynyddu rhwng pobl leol a’r heddlu, cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu a chafodd ceir eu rhoi ar dân.

Dywedodd yr erlynydd, Matthew Cobbe, wrth y rheithgor fod yr anhrefn yn dilyn marwolaethau dau fachgen ar Ffordd Snowden. 

"Dechreuodd sibrydion ledaenu am achos y gwrthdrawiad, ac nid oedd hi'n hir wedyn cyn i’r heddlu gael eu beio, gyda sibrydion yn mynd o gwmpas bod y bechgyn yn cael eu dilyn pan wnaethon nhw wrthdaro," meddai.

"Fe dyfodd y tensiwn. I nifer, fe wnaeth y dicter droi yn frwydro, gan arwain at fygythiadau a thrais tuag at yr heddlu.

"Roedd eu hemosiynau’n gyferbyniad llwyr â’r galar a’r gofid oedd yn cael eu teimlo mor amlwg gan eraill."

Clywodd y llys fod yr heddlu wedi ffurfio cordon o gwmpas ardal y gwrthdrawiad i ganiatáu y gwasanaethau brys i gyflawni eu hymchwiliad. 

Fe gafodd deunydd camera o'r digwyddiad a oedd yn cael ei wisgo gan yr heddlu ei ddangos i'r rheithgor, a oedd yn dangos grwpiau mawr o bobl yn taflu gwrthwrychau at swyddogion, gan gynnwys tân gwyllt.

Mae'r diffynyddion, Lee Robinson, 38, Mckenzie Danks, 22, Michaela Gonzales, 37, Zayne Farrugia, 24, Jordan Bratcher, 27, Jaydan Baston, 21, Connor O’Sullivan, 25, a Luke Williams, 31, yn gwadu'r cyhuddiad o anhrefn. 

Ychwanegodd Mr Cobbe: "Achos yr erlyniad ydy fod pob un o'r diffynyddion yma wedi chwarae eu rhan yn yr anhrefn, roedd eu rolau yn wahanol, ond maent yn gyffredin gyda'u rhan yn yr anhrefn, eu pwrpas cyffredin a'u hymddygiad anghyfreithlon."

Mae'r achos yn parhau.




 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.