Arestio tri mewn cysylltiad â marwolaeth yn Rhondda Cynon Taf
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn Rhondda Cynon Taf fore Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Poets Close yn Rhydyfelin toc wedi 00.40 dydd Mawrth yn dilyn adroddiad o ffrwgwd.
Dywedodd y llu bod tri dyn yn eu hugeiniau wedi cael eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau yn dilyn y digwyddiad.
Ers hynny, mae un o'r dynion wedi marw ac mae dau arall yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae dyn 30 oed o Rydyfelin wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio.
Mae dyn 22 oed o Donteg hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Cafodd menyw 20 oed o Benygraig ei harestio ar amheuaeth o glwyfo gyda bwriad.
Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.
Apêl am wybodaeth
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Raikes y bydd swyddogion yn bresennol yr ardal.
"Hoffwn sicrhau'r gymuned ein bod yn gweithio ar gyflymder i ymchwilio i'r mater hwn," meddai.
"Efallai y bydd trigolion yn sylwi ar gynnydd yn y presenoldeb heddlu yn yr ardal, ac mae cordon wedi'i sefydlu ar Masefield Way, yn benodol rhwng cyffyrdd Poets Close a Shakespeare Rise."
Mae'r llu yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500304909.