Trafodaethau dros ddenu seren Spurs, Mikey Moore, i gynrychioli Cymru
Mae Cymru wedi cynnal trafodaethau gyda chwaraewr ifanc Tottenham Hotspur, Mikey Moore, ynglŷn â chynrychioli'r wlad, yn ôl adroddiadau.
Mae’r asgellwr 18 oed ar hyn o bryd yn chwarae ei bêl-droed yn Uwch Gynghrair Yr Alban, ar fenthyg gyda Rangers.
Mae Moore wedi cynrychioli tîm dan 19 Lloegr ond mae'n gymwys i chwarae dros Gymru trwy ei fam-gu.
Moore yw'r chwaraewr ieuengaf i chwarae i Spurs yn yr Uwch Gynghrair, ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn 16 mlynedd a 277 diwrnod oed, ym mis Mai 2024.
Mae chwaraewyr fel Jordan James a David Brooks wedi cynrychioli Lloegr ar y lefel ieuenctid, cyn dewis i gynrychioli Cymru yn y pen draw.
Ac mae’n ymddangos bod Cymru yn gobeithio denu'r gŵr a wnaeth dorri record Jimmy Greaves fel y chwaraewr ieuengaf i sgorio gôl i Tottenham Hotspur mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, i chwarae yng nghrys coch Cymru.
Llun: Rangers FC