
'Mae pawb yn wahanol': Cynnig 'platfform i bawb' yn y byd ffasiwn
'Mae pawb yn wahanol': Cynnig 'platfform i bawb' yn y byd ffasiwn
Mae un o gantorion o gyfres Y Llais yn dweud ei fod yn "bwysig rhoi llwyfan" i bawb yn y byd ffasiwn.
Bydd Liam J Edwards yn perfformio mewn sioe ffasiwn yng Nghaerdydd fis nesaf - sioe a fydd yn cynnwys modelau o bob maint, rhywedd ac ethnigrwydd.
Dim ond 5% o fodelau oedd yn fwy na’r maint dillad "arferol" mewn sioeau ffasiwn hyd yma yn 2025, yn ôl cylchgrawn ffasiwn Vogue.
Dywedodd y cylchgrawn fod "prin ddim gwelliant" mewn cynhwysiant maint a bod ymdrechion dros bositifrwydd corff (body positivity) wedi eu colli.
Nid oedd Liam erioed wedi dychmygu y byddan nhw'n cymryd rhan mewn digwyddiad sioe ffasiwn, a hynny oherwydd nad oedden nhw yn credu eu bod yn "ffitio mewn" i'r diwydiant.
“Ma’ pawb yn wahanol a ma’ pawb yn cael stori ei hun, ma’n môr bwysig i ni fel pobl i roi platfform i’r pobl ‘ma, a jyst i dathlu unigrwydd pawb," dyweodd wrth Newyddion S4C.
“I canu yn sioe ffasiwn, ma hwnna’n fel dream - chi’n gweld e fel perfformwyr ifanc, fel cantorion yn canu yn fel Victoria’s Secret shows.
“‘Wi ddim yn teimlo fel o’dd e byth mynd i bod yn profiad fi mynd i cael oherwydd fi ddim yn rili ffito mewn i’r fel fashion byd neu, hwnna beth o’dd fi ‘di cael i fy nghredu."

'Cryfder a chariad'
Y dylunydd ffasiwn o Gaerdydd, Tyler Edgar, sydd wedi trefnu'r sioe ffasiwn, a fydd yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Angel yn y brifddinas.
Ar ôl astudio ffasiwn yn Llundain, mae Tyler, 28 oed, wedi gweithio ar ddillad i sêr byd enwog, gan gynnwys Helen Mirren a Blake Lively.
Dyma'r trydydd tro i Tyler drefnu sioe yng Nghaerdydd, ac eleni fe fydd y digwyddiad yn codi arian i Mind Cymru.
Dywedodd Liam Edwards eu bod wedi derbyn y gwahoddiad gan Tyler ar ôl gweld ei waith.
"Pryd nes i weld gwaith Tyler a jyst yr absolute iconic gwaith ma’ nhw’n neud o’dd e’n jyst... i ddod mewn i’r byd ‘na, ma’n jyst yn absolutely anhygoel.
“Ma’ siwt gymaint o diwylliant a cymuned yng Nghymru, a dyna beth dyle ffasiwn fod amdano.
“Cymuned yn dod at ei gilydd i ddangos cryfder a chariad.
“A dyna beth sy’n neud Cymru yn rili bwysig, yn enwedig yn mynd mewn i’r byd ffasiwn."

Bydd 56 o fodelau yn cymryd rhan yn y sioe ffasiwn fis nesaf, ac fe fydd rhain yn bobl "o bob math", meddai Tyler.
Mae rhain yn cynnwys pobl niwroamrywiol, o rywedd gwahanol, ethnigrwydd gwahanol a phobl o oedrannau a maint gwahanol.
Gobaith Tyler yw gweld newid ym myd ffasiwn, ac mae'n bwriadu cychwyn gwneud hynny yn y brifddinas.
"Dwi'n gobeithio creu llwybr newydd, a gosod Caerdydd ar y map," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ond i osod Caerdydd ar y map yn ei chyfanrwydd, fel cymuned lawn, nid rhai pobl benodol yn unig neu unrhyw un yn cael eu gwthio allan.
"Dwi eisiau pawb i gymryd rhan, pob un person yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cynnwys a thyfu'r sioeau hyn."
'Gwaith i'w wneud'
Fe wnaeth cylchgrawn ffasiwn Vogue ymweld â dros 200 o sioeau ffasiwn yn Efrog Newydd, Milan, Paris a Llundain yn ystod tymhorau'r gwanwyn a'r haf eleni.
O'r 8,763 o wisgoedd a gafodd eu harddangos, roedd 94.9% ohonynt yn cael eu gwisgo gan fodelau maint "arferol."
Mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos bod 54% o fodelau mewn ymgyrchoedd ffasiwn yn wyn.
Mae Tyler yn credu y dylai mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig gael eu cynnwys mewn ymgyrchoedd o'r fath, ond mae'n dweud bod dal llawer o waith i'w wneud.
"Am sawl blwyddyn roedd y diwydiant wedi'i gau i ffwrdd i bobl benodol," meddai.
"Ond dwi'n meddwl bod pethau yn gwella a bod y diwydiant yn dechrau derbyn pobl am bwy ydyn nhw.
"Mae dal gwaith i'w wneud, achos mae rhai dylunwyr a brandiau yn credu bod angen ti bod yn deip penodol, taldra penodol a maint penodol.
"Dwi ddim yn credu mewn hynny, achos mae pobl arferol yn gwisgo dillad arferol, mae pobl arferol yn gwisgo dillad drud, mae pawb yn gwisgo dillad."